Dyddiad yr Adroddiad

08/05/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Cyllid a Threthiant

Cyfeirnod Achos

202202387

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd wedi cael ymateb gan y Cyngor yn dilyn ei gŵyn am ei fudd-dal tai a chymorth ar gyfer Treth y Cyngor.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi methu â darparu ymateb i’r gŵyn. Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Mr X erbyn 1 Medi 2022, fel dewis arall yn lle ymchwilio iddi:

a) Ymddiheuro i Mr X am fethu â chydnabod ac ymateb i’w gŵyn

b) Darparu esboniad am yr oedi

c) Darparu ymateb i’r gŵyn.