Dyddiad yr Adroddiad

05/17/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cyllid a Threthiant

Cyfeirnod Achos

202100188

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi ad-dalu £353, fel yr oedd wedi cytuno i wneud yn ei ymateb gwreiddiol i’w gŵyn. Nid chlywodd ddim byd pellach gan y Cyngor. Roedd ei gŵyn wreiddiol yn ymwneud ag amgylchiadau lle na chafodd ohebiaeth ynglŷn â Hysbysiad Tâl Cosb (PCN). Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor. Roedd yn cydnabod bod oedi wedi bod wrth godi’r sieciau i ad-dalu Mr X. Cadarnhaodd ei fod bellach wedi archebu’r sieciau perthnasol i’w hanfon (yn ogystal â chopi o’r PCN gwreiddiol) ac y byddai Mr X yn derbyn y rhain cyn 4 Mehefin 2021