Dyddiad yr Adroddiad

08/25/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cyfleusterau Cymunedol. Adloniant a hamdden

Cyfeirnod Achos

202203049

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X i’r Ombwdsmon ei fod wedi cyflwyno cwyn i’r Cyngor ar 15 Mehefin 2022, ond nad oedd wedi cael ymateb o fewn amser rhesymol.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd Mr X wedi cael ymateb eto. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, penderfynodd yr Ombwdsmon gysylltu â’r Cyngor. Cytunodd y Cyngor y byddai’n anfon ymddiheuriad i Mr X ac yn ymateb i bryderon Mr X erbyn 31 Awst 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mr X.