Dyddiad yr Adroddiad

06/03/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

COVID19

Cyfeirnod Achos

202006082

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am fod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod dileu ffurflen ‘Peidiwch ag ymdrechu dadebriad cardio-pwlmonaidd’ (DNACPR) o’i chofnodion meddygol. Eglurodd ei bod yn teimlo’n bryderus, yn enwedig pe bai angen iddi gael ei derbyn eto i’r ysbyty.

Canfu’r Ombwdsmon y byddai’r penderfyniad ynglŷn â phriodoldeb CPR yn cael ei adolygu fel arfer os byddai’r claf yn cael ei dderbyn eto i’r ysbyty. Roedd wedi cael ei hysbysu nad oedd y DNACPR yn golygu na fyddai’n cael pob triniaeth weithredol ar gyfer cyflwr a oedd yn amlygu ei hun, a phe bai’n cael ei derbyn eto, gallai ddatgan ei dymuniadau i’r tîm derbyn ei bod yn dymuno cael ei dadebru. O ran dileu’r DNACPR o’r cofnodion meddygol, roedd y Bwrdd Iechyd yn gywir i ddweud bod y cofnodion yn ddogfennau cyfreithiol na ellid eu newid mewn unrhyw ffordd. Ni chanfu’r Ombwdsmon ddim methiannau yn y modd yr oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â chais Mrs X i ddileu’r ffurflen DNACPR o’i chofnodion meddygol.

Fodd bynnag, gan gydnabod ei phryderon ynglŷn â chael ei derbyn i’r ysbyty, bu’r Ombwdsmon yn ystyried a oedd unrhyw beth arall y gellid ei wneud i sicrhau bod staff yn adolygu’r DNACPR. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i:

• Rhoi nodyn ar y Porth Clinigol, y cofnodion electronig a chofnodion papur Mrs X o fewn 30 diwrnod gwaith i ddyddiad cyhoeddi penderfyniad yr Ombwdsmon.