Dyddiad yr Adroddiad

01/31/2023

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

COVID19

Cyfeirnod Achos

202206031

Canlyniad

Rhoddwyd y gorau

Cwynodd Mrs A ar ran ei diweddar ŵr, Mr B, am y driniaeth a’r gofal a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd pan gafod ei dderbyn i’r ysbyty ym mis Medi 2020. Dywedodd Mrs A fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag amddiffyn Mr B rhag dal COVID-19 tra yn yr ysbyty, ynghyd â chynnal ymchwiliad atal heintiau amserol mewn ymateb i’w chwyn.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon y daeth haint COVID-19 Mr B o fewn y categori amhenodol yn unol â Fframwaith Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwilio i achosion posibl o COVID-19 a gafwyd yn yr ysbyty. Roedd hyn yn golygu na allai neb ddweud a oedd Mr B eisoes yn magu  COVID-19 pan gafodd ei dderbyn i’r ysbyty neu a oedd wedi’i ddal yn yr ysbyty. Er bod Mrs A yn dweud nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi gweithredu’n briodol i leihau’r risg o haint trwy brofi cleifion am COVID-19 wrth iddynt gael eu derbyn i’r ysbyty, nid oedd hyn yn arfer a argymhellir tan fis Ionawr 2021. Gan ystyried effaith digyffelyb y pandemig ar adnoddau’r Bwrdd Iechyd a’r gofyniad i weithredu’r Fframwaith Cenedlaethol, ni ystyriwyd bod yr amser a gymerodd y Bwrdd Iechyd i ymateb i bryderon Mrs A yn afresymol.

Daeth yr ymchwiliad i gŵyn Mrs A i ben gan nad oedd llawer o werth pellach y gellid ei gyflawni drwy ymchwiliad parhaus i’r materion hyn.