Dyddiad yr Adroddiad

08/23/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol tu allan i Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202101416

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs T fod y Bwrdd Iechyd wedi methu â darparu’r pecyn gofal iechyd parhaus y GIG (“NHSCHC” y cytunwyd arno – pecyn gofal a drefnwyd ac a ariennir gan y GIG) ar gyfer ei gŵr rhwng mis Mawrth 2020 a’i farwolaeth ym mis Ionawr 2021.

Roedd Mr T wedi bod yn derbyn 16 awr o ofal yr wythnos (2 x 8 awr) o fis Mai 2018, yn dilyn llawdriniaeth ar gyfer canser y gwddf. Canfu’r Ombwdsmon, yn dilyn llawdriniaeth bellach ym mis Ionawr 2020, daeth asesiad i’r casgliad nad oedd unrhyw newid yn ei gyflwr a bod angen yr un lefel o gymorth arno o hyd. Fodd bynnag, methodd y Bwrdd Iechyd â chynllunio’n effeithiol ar gyfer rhyddhau Mr T o’r ysbyty ac ni allai ddod o hyd i’r lefel o ofal yr oedd ei angen arno. Roedd Mr T yn derbyn ar y mwyaf, 9 awr o ofal yr wythnos, yn cynnwys blociau o 3 awr. Canfu’r Ombwdsmon fod hyn yn gyfystyr â methiant gwasanaeth a achosodd anghyfiawnder sylweddol i Mr a Mrs T, a chynhaliwyd y gŵyn.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mrs T, yn ogystal ag adolygu ei broses gomisiynu i sicrhau cynllunio rhagweithiol, a’r system o reolaeth ariannol pecynnau gofal.