Dyddiad yr Adroddiad

10/29/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202104763

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad oedd ei gwastraff ailgylchu wedi cael ei gasglu droeon. Cwynodd hefyd nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w chŵyn.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor fynd ati i ymchwilio i’r gŵyn ar unwaith a rhoi ymateb ysgrifenedig i Miss X (o fewn tair wythnos) yn esbonio beth a ddigwyddodd, y camau a gymrodd a pha gamau unioni cam y byddai’n eu cymryd.

Roedd yr Ombwdsmon yn ystyried bod hyn yn datrys y gŵyn yn briodol yn lle cynnal ymchwiliad.