Dyddiad yr Adroddiad

06/15/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202101427

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X fod Cyngor Caerdydd wedi methu sawl casgliad gwastraff hylendid yn achos ei Mam-gu oedrannus.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor gymryd y camau canlynol i setlo cwyn Miss X:

O fewn 3 wythnos i’r penderfyniad:
(1) Cynnig ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss X a’i Mam-gu am yr anghyfleustra a achoswyd o ganlyniad i fethu’r casgliadau gwastraff hylendid.
(2) Rhoi sicrwydd ysgrifenedig i Miss X ac i’w Mam-gu y bydd y mater yn cael ei gofnodi gyda Rheolwr y Tîm Casgliadau i sicrhau y gwneir pob ymdrech i gasglu’r gwastraff hylendid yn y dyfodol.
(3) Gwneud trefniadau i Reolwr y Tîm Casgliadau adolygu’r mater hwn yn rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth â’i bolisi casglu.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn.