Dyddiad yr Adroddiad

10/04/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202103982

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu â chasglu ei gwastraff ac er ei bod wedi cwyno droeon bod y methiant i gasglu ei gwastraff yn dal i ddigwydd.

Roedd y Cyngor wedi cydnabod y methiannau parhaus, ac yn lle ymchwiliad gan yr Ombwdsmon, cytunodd i wneud y canlynol i setlo cwyn Ms X:

1. Rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig ffurfiol i Ms X.

2. Talu iawndal o £50 i Ms X i gydnabod yr amser a’r drafferth a achoswyd iddi drwy orfod cwyno’n barhaus am y mater hwn.

3. Ymrwymo i fonitro / archwilio cydymffurfio â’i gwasanaeth casglu am y pedwar mis nesaf.

4. Pe bai methiant pellach i gasglu ei gwastraff, y byddai galwad ffôn yn cael ei wneud i Ms X i ymddiheuro a chadarnhau y byddai’r sefyllfa’n cael ei chywiro o fewn 48 awr.