Dyddiad yr Adroddiad

06/16/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202101624

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cyngor Caerdydd wedi methu sawl casgliad gwastraff cyffredinol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor gymryd y camau canlynol i setlo cwyn Mr X:

O fewn 3 wythnos i’r penderfyniad:

• Cynnig ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr X am yr anghyfleustra a achoswyd o ganlyniad i fethu’r casgliadau.
• Rhoi sicrwydd ysgrifenedig i Mr X y bydd y mater yn cael ei gofnodi gyda Rheolwr y Tîm Casgliadau i sicrhau y gwneir pob ymdrech i gasglu’r gwastraff yn y dyfodol.
• Gwneud trefniadau i Reolwr y Tîm Casgliadau adolygu’r mater hwn yn rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth â’i bolisi casglu.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn.