Dyddiad yr Adroddiad

04/14/2022

Achos yn Erbyn

Cera +

Pwnc

Cartrefi gofal

Cyfeirnod Achos

202200102

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd wedi derbyn ymateb i’w chŵyn er iddi gysylltu â’r Darparwr Gofal ar sawl achlysur a bod y darparwr Gofal yn addo gwneud hynny.

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd Mrs X wedi derbyn ymateb i’w phryderon eto a chysylltodd â’r Darparwr Gofal. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, cytunodd y Darparwr Gofal i roi ymateb ffurfiol i gŵyn Mrs X erbyn 6 Mai 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel datrysiad i gŵyn Mrs X.