Dyddiad yr Adroddiad

02/17/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

COD - Anhunanoldeb a stiwardiaeth

Cyfeirnod Achos

202002322

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn gan aelod o’r cyhoedd bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Sir Powys (“y Cyngor”) wedi defnyddio ei swydd yn amhriodol fel aelod o’r Cyngor wrth ohebu â’r achwynydd ynghylch anghydfod sifil.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod yr Aelod wedi dod yn rhan o’r anghydfod gyda’r achwynydd yn rhinwedd ei swydd fel cyfreithiwr, a’i fod wedyn wedi dibynnu ar ei rôl fel Aelod o’r Cyngor wrth ohebu â’r achwynydd.  Wrth ohebu â’r achwynydd, roedd yr Aelod angen cymorth gan un o Swyddogion Aelodau’r Cyngor i dderbyn ac anfon negeseuon ebost.  Nid oedd yr Ombwdsmon o’r farn bod cysylltiad credadwy wedi bod â busnes y Cyngor mewn perthynas â’r anghydfod sifil.

Ni chafodd yr Ombwdsmon ei argyhoeddi bod tystiolaeth bod yr Aelod wedi defnyddio ei swydd yn amhriodol er mwyn creu mantais neu anfantais i unigolyn (paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad) ond daeth i’r casgliad y gallai’r Aelod fod wedi torri amodau paragraffau 7(b)(i), 7(b)(iv), a 7(b)(vi) o’r Cod Ymddygiad gan ei bod yn ymddangos bod yr Aelod wedi defnyddio adnoddau’r Cyngor yn annoeth, ac eithrio mewn modd a gyfrifwyd i hwyluso cyflawni swyddogaethau’r Cyngor, ac yn amhriodol dibenion preifat

Yn ystod yr ymchwiliad, gwnaeth yr Aelod nifer o sylwadau am iechyd meddwl yr achwynydd, a oedd, ym marn yr Ombwdsmon, yn amharchus ac yn wahaniaethol mewn perthynas ag anabledd posib.

Canfu’r Ombwdsmon fod ymddygiad yr Aelod yn awgrymu ei fod wedi torri amodau Cod Ymddygiad y Cyngor, yn enwedig paragraffau 4(a) a 4(b), gan fod yr Aelod wedi methu cyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau gan roi sylw dyledus i’r egwyddor y dylai pawb gael cyfle cyfartal beth bynnag fo’u hanabledd, a methiant i ddangos parch ac ystyriaeth.

Canfu’r Ombwdsmon hefyd y gellid yn rhesymol ystyried gweithredoedd yr Aelod yn ymddygiad a allai ddwyn anfri ar swydd yr Aelod neu’r Cyngor ac y gallai fod yn achos o dorri amodau paragraff 6(1)(a) y Cod Ymddygiad.

Cyfeiriodd yr Ombwdsmon ei adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro’r Cyngor i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Cynhaliodd Pwyllgor Safonau’r Awdurdod wrandawiad ar 26 Mehefin 2023 a chanfu bod yr Aelod, nad oedd bellach yn Aelod o’r Cyngor adeg y gwrandawiad, wedi torri amodau paragraffau 4(a), 4(b), 6(1)(a), 7(b)(i), 7(b)(iv), a 7(b)(vi) o’r Cod Ymddygiad, a phenderfynwyd ei geryddu.