Dyddiad yr Adroddiad

07/13/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Anhunanoldeb a stiwardiaeth

Cyfeirnod Achos

202001914

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Banel Safonau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn gan Reolwr Practis Meddyg Teulu (“y Practis”) yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (“y Bwrdd Iechyd”), bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Dinas Casnewydd wedi methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau.

Honnwyd bod yr Aelod wedi defnyddio ei swydd fel aelod o’r Cyngor yn amhriodol pan oedd yn eiriol ar ran un o gleifion y Practis.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod yr Aelod wedi gwneud 2 alwad ffôn i’r Practis lle ceisiodd ddibynnu’n amhriodol ar ei sefyllfa fel Aelod o’r Cyngor, ac fel cynrychiolydd o’r Cyngor ar y Bwrdd Iechyd, er mwyn siarad â meddyg ar alwad am ofal iechyd y claf.  Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hefyd fod yr Aelod wedi gwneud cwyn i’r Bwrdd Iechyd yn cynnwys gwybodaeth a oedd yn feirniadol o staff y Practis ac nad oedd yn adlewyrchu cynnwys y sgyrsiau dros y ffôn yn gywir.  Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod y gŵyn yn ymgais gan yr Aelod i ddefnyddio ei sefyllfa i danseilio gweithredoedd y Practis a chreu anfantais i’r Practis.

Penderfynodd yr Ombwdsmon felly y gallai’r Aelod fod wedi torri paragraff 7(a) o God Ymddygiad y Cyngor ar gyfer Aelodau a chyfeiriodd ei adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Dinas Casnewydd i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad fod yr Aelod wedi torri paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad a’i hatal am 3 mis. Argymhellwyd hefyd i’r Cyngor ei thynnu o’i swydd ar y Bwrdd Iechyd.