Dyddiad yr Adroddiad

02/17/2022

Achos yn Erbyn

Awdurdod Tân Canolbarth a gorllewin Cymru

Pwnc

COD - Anhunanoldeb a stiwardiaeth

Cyfeirnod Achos

202002848

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Bwyllgor Safonau

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn gan aelod o’r cyhoedd bod Aelod (“yr Aelod”) o Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru (“yr Awdurdod”) wedi torri amodau Cod Ymddygiad yr Awdurdod.  Honnwyd bod yr Aelod wedi defnyddio ei swydd yn amhriodol fel aelod o’r Awdurdod wrth ohebu â’r achwynydd am fater sifil.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr Aelod wedi dibynnu ar ei sefyllfa fel Aelod o’r Awdurdod ac wedi ysgrifennu at yr achwynydd i fynnu bod giât y penderfynodd yr Aelod ei bod yn peri risg o dân yn cael ei symud.  Roedd y dystiolaeth a gafwyd gan yr Ombwdsmon yn awgrymu nad oedd gan yr Aelod awdurdod i benderfynu a oedd y giât yn peri risg tân a bod swyddogaethau o’r fath ar gyfer y Gwasanaeth Tân, nid ar gyfer yr Awdurdod na’i Aelodau.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y gallai’r Aelod fod wedi torri amodau paragraff 7(a) o’r Cod Ymddygiad gan iddo ddefnyddio ei swydd fel Aelod o’r Awdurdod yn amhriodol i sicrhau mantais i’w gleientiaid mewn anghydfod sifil preifat.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod tôn gohebiaeth yr Aelod at yr achwynydd yn amhriodol.  Yn ystod yr ymchwiliad, gwnaeth yr Aelod nifer o sylwadau am iechyd meddwl yr achwynydd, a oedd, ym marn yr Ombwdsmon, yn amharchus ac yn wahaniaethol mewn perthynas ag anabledd posib.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y gallai’r Aelod fod wedi torri amodau Cod Ymddygiad yr Awdurdod, yn enwedig paragraffau 4(a) a 4(b), gan fod yr Aelod wedi methu cyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau heb roi sylw dyledus i gyfle cyfartal i bawb beth bynnag fo’u hanabledd, a methiant i ddangos parch ac ystyriaeth i’r achwynydd.

Roedd yr Ombwdsmon hefyd o’r farn y gellid yn rhesymol ystyried gweithredoedd y Cyn-Aelod yn ymddygiad a allai ddwyn anfri ar swydd yr Aelod neu’r Cyngor a thorri amodau paragraff 6(1)(a) y Cod Ymddygiad o bosib.

Cyfeiriodd yr Ombwdsmon ei adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro’r Awdurdod i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Cynhaliodd Pwyllgor Safonau’r Awdurdod wrandawiad ar 17 Mai 2023 a chanfu bod yr Aelod, nad oedd bellach yn Aelod o’r Awdurdod adeg y gwrandawiad, wedi torri amodau paragraffau 4(a), 4(b), 6(1)(a) a 7(a) o’r Cod Ymddygiad, a phenderfynwyd ei geryddu.