Dyddiad yr Adroddiad

03/16/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Gwynedd

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202106670

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs P fod y Cyngor wedi methu â chymryd camau priodol i fynd i’r afael â chwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol gan Mr A, a oedd yn byw drws nesaf i eiddo rhent yr oedd yn berchen arno yn y Bala. Roedd tenantiaeth Mr A yn yr eiddo cyfagos wedi ei threfnu drwy gynllun prydlesu preifat y Cyngor. Dywedodd ei bod hi a’i thenant (“Ms B”) wedi cwyno dro ar ôl tro am dros 8 mis a bod Ms B wedi darparu tystiolaeth helaeth o’r ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond bod ymatebion y Cyngor yn ysbeidiol ac anghyson.
Ar ôl asesu’r dystiolaeth a oedd ar gael, roedd yr Ombwdsmon yn poeni bod y Cyngor yn aml wedi methu ag ymateb yn brydlon i adroddiadau Mrs P a Ms B am ymddygiad gwrthgymdeithasol honedig, hyd yn oed ar ôl i Mrs P wneud cwyn ffurfiol. Roedd y Cyngor hefyd wedi colli cyfle i ddarparu un ymateb cwynion corfforaethol yn nodi mewn un man safbwyntiau’r gwahanol adrannau a oedd yn gysylltiedig. Mae’n bosib bod hyn wedi egluro’r angen i Ms B ddarparu tystiolaeth newydd er mwyn i’r Cyngor adnewyddu ymchwiliadau i niwsans statudol posib.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor mewn perthynas â’r pryderon cyfathrebu a nodwyd uchod. Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Mrs P a Ms B o fewn 1 mis am y methiannau cyfathrebu a nodwyd gan yr Ombwdsmon a thalu £125 yr un iddynt mewn perthynas ag amser a thrafferth cysylltiedig.