Dyddiad yr Adroddiad

09/05/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202203096

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X, er gwaethaf iddo wneud sawl cwyn i’r Gymdeithas, ei bod wedi methu â mynd i’r afael â’i bryderon mewn modd amserol. Cwynodd Mr X ymhellach fod y Gymdeithas wedi methu â’i ddiweddaru ynglŷn â’i bryderon ac nad oedd wedi derbyn ymateb ffurfiol.

Wrth asesu cwyn Mr X, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu ei fod wedi profi oedi sylweddol ac nad oedd eto wedi derbyn ymateb ffurfiol i’w bryderon. Fel dewis amgen yn lle ymchwiliad, cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Gymdeithas a chytunodd i dalu £150 o iawndal i Mr X. Yn ogystal, cytunodd y Gymdeithas y byddai’n darparu ymateb ac ymddiheuriad llawn i Mr X erbyn 16 Medi 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hwn fel datrysiad i gŵyn Mr X.