Dyddiad yr Adroddiad

08/10/2022

Achos yn Erbyn

Panel Apelio Derbyniadau - Ysgol Bassaleg

Pwnc

Addysg

Cyfeirnod Achos

202201785

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am benderfyniad y Panel Apeliadau Ysgol. Yn benodol, cyfeiriodd yn ei gŵyn at wybodaeth nad oedd y Panel wedi’i hystyried wrth ddod i’w benderfyniad, ac nad oedd ychwaith wedi gofyn am eglurhad ychwanegol ganddo. Nododd yr Ombwdsmon fod gwybodaeth, a oedd yn uniongyrchol berthnasol i’r achos, nad oedd Mr X wedi’i darparu i’r Panel ac felly nad oedd wedi cael y cyfle i’w hystyried wrth wneud y penderfyniad. Felly cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor ynghylch hyn.
O ganlyniad, cytunodd y Cyngor i drefnu ail-wrando ar y rhan o’r apêl sy’n berthnasol, ynghyd â rhoi ystyried i unrhyw wybodaeth ychwanegol a ddarparodd Mr X.