Cyflwyniad

Mae’r daflen ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch budd-daliadau tai a gostwng y dreth gyngor (a elwir weithiau yn cefnogaeth y dreth gyngor). Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am weinyddu budd-daliadau tai a gostyngiad y dreth gyngor yn ei ardal leol yn unol â’r ddeddf berthnasol, rheoliadau a chanllawiau’r llywodraeth. Os ydych o’r farn nad yw’r cyngor wedi gwneud hyn, efallai y byddwn yn gallu helpu gyda’ch cwyn.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Byddwn yn gallu:

  • edrych ar gwynion bod y Cyngor wedi methu rhoi gwybod i chi’n briodol am benderfyniad neu eich hawl i apelio yn erbyn penderfyniad;
  • cadarnhau bod y Cyngor wedi cymryd camau i adennill gordaliad gennych yn deg a thrwy ddilyn y rheolau;
  •  Ystyried materion fel oedi afresymol, methu cydnabod eich apêl, methu cadw cofnodion priodol, cyfathrebu gwael neu wneud camgymeriadau gyda’r taliadau.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni fyddwn yn gallu:

  • eich helpu i wneud hawliad
  • dweud wrth y Cyngor am gynyddu’r swm yr ydych yn ei dderbyn
  • dweud wrth y Cyngor am leihau’r swm sy’n ddyledus gennych
  • ymyrryd ym mhenderfyniad y Cyngor i ddwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn am dwyll
  • fel arfer, edrych ar gŵyn lle mae neu lle oedd hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i dribiwnlys statudol

 

Materion i gadw mewn cof

Os ydych o’r farn bod penderyniad y Cyngor yn anghywir, dylech ysgrifennu at y Cyngor yn y lle cyntaf. Os nad yw’r mater yn cael ei ddatrys, efallai y bydd gennych hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor i dribiwnlys statudol.

Os ydych chi’n gwneud cais am fudd-daliadau gwladol eraill, e.e. lwfans cymorth cyflogaeth neu daliadau annibyniaeth personol ac nad ydych yn fodlon â’r gwasanaeth rydych wedi ei gael, dylech gysylltu â’r swyddfa rydych chi wedi bod yn delio â hi er y cychwyn. Ar ôl hynny, efallai y byddwch yn gallu cwyno wrth Ombwdsmon y Gwasanaeth Seneddol ac Iechyd. Gallwch eu ffonio ar 0345 015 4033. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth yn www.Ombudsman.org.uk

 

Gwybodaeth bellach

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fwy manwl am ostyngiadau’r Dreth Gyngor a budd-dal Tai yn www. gov.uk

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am apelio yn erbyn penderfyniad cyngor ynghylch budd-dal tai yn www.justice.gov.uk/tribunals/sscs

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am apelio yn erbyn penderfyniad cyngor ynghylch gostyngiad treth cyngor yn www.Valuations-Tribunal-Wales.org.uk

Gallwch hefyd dderbyn cyngor annibynnol, di-dâl ar eich hawliau lles gan eich Cyngor ar Bopeth leol, manylion yn https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru