Cyflwyniad

Mae cyfyngiadau parcio a rhai toriadau traffig eraill (fel gyrru mewn lonydd bysiau) yn cael eu gorfodi yn fwyfwy gan gynghorau. O dan ddarpariaethau ddeddfwriaeth y mae cynghorau yn eu dilyn, mae hawliau apelio/herio statudol i ddyfarnwr annibynnol yn y Tribiwnlys Cosbau Traffig.

 

Beth allwn ei wneud

Mae’r amgylchiadau lle efallai y gallwn edrych ar eich cwyn yn eithriadol o gyfyng. Fodd bynnag, efallai fod rhai agweddau cyfyngedig y gallwn edrych arnynt:

  • Gallwn edrych ar gŵyn am gamau gweithredu beilïaid sy’n cael eu cyfarwyddo gan y cyngor i adfer ffi parcio sydd heb ei thalu, ond mae hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau unigol.

 

Beth na allwn ei wneud

Ni allwn ymchwilio i fwyafrif y cwynion am orfodaeth barcio. Ni allwn wrthdroi penderfyniad gorfodaeth barcio ac ni allwn atal camau gweithredu gorfodaeth rhag mynd ymlaen. Hefyd, ni allwn ymchwilio fel arfer i gwynion lle y mae hawl apelio statudol i dribiwnlys annibynnol neu i’r llysoedd:

  • Os yw’r cyngor yn cyhoeddi hysbysiad tâl cosb (HTC) oherwydd tramgwydd parcio o dan y Ddeddf Rheoli Traffig, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Cosbau Traffig ac felly ni fyddwn fel arfer yn ystyried eich cwyn. Os nad ydych chi wedi defnyddio eich hawl i apelio, byddwn yn ystyried a oes unrhyw resymau eithriadol pam y gall eich cwyn gael ei hystyried. Fodd bynnag, gan fod apêl i’r Tribiwnlys ar gael yn rhad ac am ddim a’i fod wedi’i sefydlu yn benodol i edrych ar apeliadau o’r fath, byddwn yn disgwyl i chi apelio yn y rhan fwyaf o achosion. Os ydych chi eisoes wedi apelio, ni allwn edrych ar y gŵyn o gwbl.
  • Os yw’r cyngor yn cyhoeddi HTC o dan y Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd, gallwch chi ei herio yn y llysoedd, ac felly ni fyddwn fel arfer yn ystyried eich cwyn. Os nad ydych chi wedi defnyddio’r hawl hon, byddwn yn ystyried a oes unrhyw resymau eithriadol pam y gall eich cwyn gael ei hystyried. Fodd bynnag, gan fod rhwymedi cyfreithiol amlwg yn bodoli, byddwn yn disgwyl i chi ei ddefnyddio yn y mwyafrif o achosion. Os ydych chi eisoes wedi bod drwy’r broses gyfreithiol, ni allwn edrych ar eich cwyn o gwbl.

Yn ychwanegol:

  • Mae llawer o gwmnïau preifat yn cyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb mewn perthynas â thir preifat sy’n swnio’n debyg, er enghraifft, mewn meysydd parcio ac mewn archfarchnad. Hysbysiadau cytundebol yw’r rhain ac nid ydynt yn cael eu cyhoeddi o dan y ddeddfwriaeth a ddefnyddir gan gynghorau. Mater cyfreithiol preifat yw’r rhain rhyngoch chi a’r cwmni a gyhoeddodd yr hysbysiad, fodd bynnag, mae rhai cwmnïau wedi cofrestru i broses apeliadau annibynnol, sy’n cael ei weinyddu gan Apeliadau Parcio ar Dir Preifat (POPLA). Ni allwn gymryd rhan yn yr achosion hyn mewn unrhyw ffordd.

 

Gwybodaeth bellach

Efallai yr hoffech ystyried cysylltu â’r sefydliadau canlynol am gyngor neu wybodaeth:

Mae Tribiwnlys Cosbau Traffig yn ymdrin ag apeliadau HTCau a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf Rheoli Traffig. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0800 160 1999 neu ewch i’w gwefan: www.trafficpenaltytribunal.gov.uk

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor a chymorth yn rhad ac am ddim i aelodau’r cyhoedd a gellir darganfod gwybodaeth benodol ynglŷn â gorfodaeth barcio ar eu gwefan: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/Y- Gyfraith-a-Llysoedd/tocynnau-parcio/

Mae POPLA yn ystyried apeliadau ar hysbysiadau a gyhoeddwyd gan gwmnïau preifat sy’n aelodau o Gynllun Gweithredwr Cymeradwy (CGC) a weinyddir gan Gymdeithas Parcio Prydain (CPP). Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 03301 596 126 neu ewch i’w gwefan: www.popla.org.uk

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen