Cyflwyniad

Mae’r gyfraith yn cyfyngu ar ein pwerau. Un o’r cyfyngiadau hyn yw na allwn ymchwilio i gŵyn os oes rhwymedi’n bodoli drwy gyfrwng achos llys. Hynny yw, oni bai ein bod yn fodlon nad yw’n rhesymol disgwyl i chi droi at y llysoedd.

Os mai iawndal ariannol yr ydych chi’n edrych amdano neu unrhyw rhwymedi arall y byddai achos llys yn ei roi i chi, efallai na fyddwn yn gallu ymchwilio i’ch cwyn.

Er y gallwn argymell iawndal ariannol mewn sefyllfaoedd penodol, mae’n bwysig cofio bod unrhyw iawndal ariannol y gallwn ei argymell yn annhebygol o fod cymaint â phe baech yn bwrw ymlaen â’ch cwyn yn llwyddiannus drwy’r llysoedd.

 

Sut ydym yn penderfynu ar iawndal ariannol?

Sicrhawn fod unrhyw iawndal ariannol a argymhellir yn deg ac yn gymesur, ac yn ystyried achosion tebyg a phenderfyniadau blaenorol a wnaethpwyd.

Mewn sawl achos ni fydd iawndal ariannol yn briodol – bydd rhwymedi arall megis ymddiheuriad neu gamau gweithredu gan y corff sy’n destun cwyn yn ddigon i unioni unrhyw anghyfiawnder.

Er ein bod yn ystyried eich barn wrth benderfynu pa rwymedi (os unrhyw un) i’w argymell, yn y pen draw, ein lle ni yw penderfynu beth sy’n rhesymol.

Mewn achosion lle rydym wedi penderfynu bod argymell iawndal ariannol yn briodol, defnyddiwn pedair lefel o daliad iawndal fel man cychwyn. Lluniwyd y pedair lefel i adlewyrchu difrifoldeb yr anghyfiawnder ag achoswyd. Dyma’r pedair lefel y taliad iawndal:

Lefel 1 £50-£450 – Mân anghyfiawnder a dim effaith hirdymor – er enghraifft, cymerodd y corff amser sylweddol i ymateb i gŵyn, a methodd drosodd a throsodd ag   ymateb i chi.

Lefel 2 £500-£950 – Anghyfiawnder cymedrol heb unrhyw neu fawr unrhyw o effaith hirdymor – er enghraifft, methodd y corff â darparu gwybodaeth gywir i chi mewn ymateb ’’ch cwestiynau niferus, , ac yr oedd yna oedi osgoadwy wrth ddarparu triniaeth ond heb unrhywganlyniadau hirdymor.

Lefel 3 £1,000-£1,950 – Anghyfiawnder sylweddol gyda chanlyniadau hirdymor posibl – er enghraifft, methu diagnosis neu driniaeth wael ag ôl-effeithiau i glaf, neu ddiffyg cymorth gwasanaethau cymdeithasol y gallai person fod wedi’i gael.

Lefel 4 £2,000+ – Anghyfiawnder sylweddol iawn gyda chanlyniadau hirdymor – er enghraifft, niwed hynod ddifrifol, megis marwolaeth osgoadwy.

 

Cysylltwch â ni

Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu ystyried eich cwyn, cysylltwch â ni ar 0300 790 0203 neu holwch@ombwdsmon.cymru