Cyflwyniad

Mae’r daflen ffeithiau hon yn cynnwys cwynion ynghylch Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd yng Nghymru (CAFCASS CYMRU). Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae CAFCASS CYMRU yn sefydliad o fewn Llywodraeth Cymru, ac yn gweithio gyda phlant a theuluoedd sy’n gysylltiedig ag achosion llys teulu. Mae’n annibynnol ar y llysoedd, y gwasanaethau cymdeithasol, yr awdurdodau addysg ac iechyd ac asiantaethau tebyg. Mae’n hyrwyddo budd plant sy’n gysylltiedig ag achosion teulu, gan gynghori’r llysoedd teulu ynghylch yr hyn y mae’n ei ystyried sydd o’r budd mwyaf i’r plant dan sylw.
Ei rôl yw:

  • diogelu a hyrwyddo lles plant;
  • cynghori’r llysoedd teulu;
  • darparu fel bo’r plant yn cael eu cynrychioli;
  • darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i blant a’u teuluoedd.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd weinyddol y mae CAFCASS CYMRU yn delio â’ch achos, gallwch gwyno wrthym ni am y broses honno.

Gallwn:

  • Edrych ar unrhyw fethiannau gweinyddol yn y ffordd y mae CAFCASS wedi delio â chi a’ch achos;
  • ystyried cwyn am sut mae CAFCASS CYMRU wedi dilyn ei drefn gwyno, neu unrhyw gam ohoni.

 

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn:

  • ystyried unrhyw faterion gohirio, disgyblu neu unrhyw faterion personél ynghylch aelodau o staff CAFCASS CYMRU;
  • cymryd unrhyw gamau yng nghyswllt cychwyn neu gynnal achos cyfreithiol gerbron llys barn. Os ydych chi’n anfodlon â phenderfyniad y Llys, yna efallai y byddwch yn awyddus i ystyried cymryd cyngor cyfreithiol;
  • edrych ar neu cymryd camau yng nghyswllt unrhyw adroddiad a gaiff ei baratoi at ddibenion achos llys.

 

Materion i gadw mewn cof

  • Os ydych chi’n anhapus â chynnwys adroddiad CAFCASS CYMRU sydd wedi’i baratoi at ddibenion achos llys, yna dylech fanteisio ar y cyfle i fynegi ac egluro unrhyw bryderon ynghylch yr adroddiad yn yr achos Llys.
  • Nid oes angen i chi ddefnyddio twrnai nac unrhyw adfocad arall i gyflwyno’ch cwyn i ni; mae ein gwasanaeth yn ddiduedd ac am ddim a’n nod yw gwneud y broses mor hawdd â phosibl i’r achwynwyr ei dilyn.

 

Gwybodaeth bellach

Efallai yr hoffech chi ystyried cysylltu â’r sefydliadau canlynol i gael cyngor:

Rydym yn annibynnol ac yn ddiduedd; ni allwn orfodi cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond, yn ymarferol, maent yn gwneud hynny’n ddi-ffael bron.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen