Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch materion amddiffyn plant. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ymchwilio lle credir bod plentyn mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol. Fel arfer, dylech gwyno yn gyntaf i’r Cyngor o dan weithdrefn gwyno’r Gwasanaethau Plant. Ond gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol os yw’n ymddangos bod y Cyngor yn llusgo’i draed wrth ddelio â’ch cwyn.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn edrych ar ymateb y Cyngor i bryderon bod plentyn mewn perygl. Dyma rai o’r materion y gallwn edrych arnynt:

Mae rhywbeth o’i le gyda’r ffordd y mae’r Cyngor wedi ymchwilio i bryderon ynghylch amddiffyn plant a allai fod wedi effeithio arnoch chi’n bersonol. Er enghraifft:

  • methu ymateb neu oedi yn ymateb i adroddiadau bod plentyn mewn perygl.
  •  ymchwilio’n anfoddhaol i’r achos a methu dilyn y gweithdrefnau priodol a chanllawiau’r llywodraeth;
  • methu cyfathrebu â’r pobl berthnasol a chydweithredu ag asiantaethau eraill;
  • adroddiadau anfoddhaol neu anghywir (ar wahân i adroddiadau a baratoir ar gyfer y llys).

Diffygion gyda rheoli’r gwaith o gynllunio dyfodol plentyn yn dilyn cynhadledd achos amddiffyn plant. Gallai’r diffygion hyn gynnwys:

  • methu gweithredu argymhellion cynhadledd amddiffyn plant;
  • dim cynllun boddhaol ar gyfer y plentyn, neu fethu gweithredu cynllun o’r fath.

Mewn rhai achosion gallwn gwestiynu penderfyniadau a wnaed gan weithwyr cymdeithasol.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni allwn:

  • edrych ar benderfyniad gan y Cyngor i ddwyn achos llys;
  • edrych ar faterion y dylai’r llys fod wedi edrych arnynt. Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad achos llys, ni allwn newid y penderfyniad hwnnw a dylech ystyried gofyn am gyngor cyfreithiol. Mewn rhai achosion, byddwn efallai’n gallu edrych ar y mesurau a gymrodd y Cyngor cyn dwyn achos llys ac ar y gwasanaethau iddo eu darparu ar ôl i’r achos llys ddod i ben.

 

Materion i gadw mewn cof

Mewn achosion amddiffyn plant, lles y plentyn yw’r brif ystyriaeth a gallai hyn fod yn gyson â buddiannau’r oedolyn sy’n cwyno.

Os yw eich cwyn yn ymwneud â phenderfyniad gan Gynhadledd Amddiffyn Plant, ni allwn ystyried y gŵyn oherwydd gallai nifer o wahanol asiantaethau fod yn cyfrannu at y broses amddiffyn plant. Gallwn ond edrych ar gwynion yn erbyn y cyngor ac, mewn rhai amgylchiadau, ar berfformiad gweithwyr iechyd proffesiynol.

 

Gwybodaeth bellach

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Weithdrefnau Diogelu Cymru yn https://www.childreninwales.org.uk/safeguarding/

Mae’r gweithdrefnau hyn yn helpu i ddiogelu plant a hybu eu lles .

Efallai y byddech hefyd yn gallu cael cyngor a chymorth gan Grŵp Hawliau’r Teulu, sy’n darparu gwasanaeth dros Gymru a Lloegr ac sy’n cynghori rhieni ac aelodau eraill o’r teulu pan fo angen gwasanaethau gofal cymdeithasol efallai ar eu plant. Gallwch eu ffonio ar 0808 801 0366 neu ymweld â’u gwefan: https://www.frg.org.uk/

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen