Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn ymwneud â chwynion ynghylch Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru. Ei phrif waith yw prosesu apeliadau cynllunio a gorfodi a chynnal ymchwiliadau i gynlluniau datblygu lleol.

Mae hefyd yn delio ag ystod eang o waith arall sy’n ymwneud â chynllunio, gan gynnwys:

  • apeliadau caniatâd ar gyfer adeiladau rhestredig;
  • apeliadau hysbysebu; ac,
  • adrodd ar geisiadau cynllunio y bydd Llywodraeth Cymru yn eu galw i mewn.

Mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru hefyd yn delio ag apeliadau amgylcheddol ac achosion hawliau tramwy.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Rydym yn gallu edrych ar gwynion am:

  • weinyddu gwael neu ddiffygion gweithdrefnol ym mhenderfyniadau’r Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru;
  • diffygion yn y ffordd mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi delio â’ch cwynion, er enghraifft os yw wedi methu ymateb neu os nad yw wedi delio â’ch cwyn o fewn cyfnod rhesymol.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni allwn:

  • ystyried rhinweddau penderfyniadau Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, gan gynnwys ei phenderfyniadau ar apeliadau cynllunio a phenderfyniadau apeliadau gorfodi. Dim ond drwy’r llysoedd mae modd herio’r rhain.

 

Materion i gadw mewn cof

Nid yw cwynion am benderfyniadau cynllunio unigol sydd wedi cael eu gwneud gan Gynghorau lleol yng Nghymru yn faterion i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.  Dylid cyfeirio’r cwynion hyn at y Cyngor dan sylw yn y lle cyntaf, a gallai fod yn fater i ni.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ein Taflen Wybodaeth am Geisiadau Cynllunio. Mae hon ar gael ar y wefan, mae’r cyfeiriad isod.

 

Gwybodaeth bellach

Mae rhagor o wybodaeth am Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru, gan gynnwys eu trefn gwyno, ar gael ar y wefan:

www.llyw.cymru/penderfyniadau-cynllunio-ac-amgylchedd-cymru

Mae cyngor cyffredinol ar bob agwedd ar gynllunio defnydd tir yng Nghymru ar gael gan Cymorth Cynllunio Cymru. Caiff yr wybodaeth hon ei darparu am ddim.  Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Cymorth Cynllunio Cymru:

www.cymorthcynlluniocymru.org.uk

Nid oes angen i chi wneud eich cwyn i ni gan ddefnyddio cyfreithiwr neu unrhyw adfocad arall; mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim ac yn ddiduedd, a’n nod yw gwneud y broses mor hawdd â phosibl i bobl ei dilyn.

Ni allwn orchymyn bod cyrff cyhoeddus yn gweithredu ar ein hargymhellion – ond, yn ymarferol, maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru