Cyflwyniad

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion am Orfodaeth Gynllunio. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Y Cyngor yw’r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer ei ardal (mewn rhai ardaloedd, Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n gwneud hyn). Mae awdurdodau cynllunio’n gyfrifol am wneud penderfyniadau a gweithredu ar amrywiol faterion cynllunio. Rhaid iddynt weithio o fewn y gyfraith, canllawiau’r llywodraeth ac o fewn polisi’r awdurdod ei hun. Efallai y byddwn yn gallu eich helpu gyda’ch cwyn yn erbyn awdurdod cynllunio.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Byddwn yn gallu:

  • edrych ar gŵyn eich bod wedi cael eich effeithio gan dorri rheolau cynllunio os credwch na ddeliodd y Cyngor â materion yn iawn;
  • cadarnhau bod Cyngor wedi cymryd camau gorfodi yn deg a thrwy ddilyn y rheolau;
  • edrych i faterion fel oedi afresymol yn asesu achos neu’n gweithredu, lle na chafodd amodau cynllunio eu dilyn, methu â chadw cofnodion priodol a chyfathrebu gwael;
  • gofyn i’r Cyngor egluro ei benderfyniad i gymryd camau gorfodi er mwyn sicrhau bod swyddogion wedi ystyried yr holl ffeithiau sy’n berthnasol.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Ni fyddwn yn gallu:

  • gorfodi Cyngor i gymryd, neu i beidio â chymryd, camau gorfodi.
  • ni fyddwn fel arfer yn ymchwilio i gŵyn bod camau gorfodi wedi cael eu cymryd yn eich erbyn a chithau â hawl i apelio.

 

Materion i gadw mewn cof

Mae cryn dipyn o ddatblygu’n gallu digwydd heb ganiatâd cynllunio felly efallai na fydd angen i gyngor weithredu.

Gall cyngor ddewis peidio â chymryd camau gorfodi os yw’n meddwl mai dyna’r peth iawn i’w wneud.

Mae canllawiau’r llywodraeth yn annog cynghorau i roi cynnig ar ddulliau anffurfiol o ddelio â phroblemau cynllunio. Fel rheol, byddai’n cymryd camau gorfodi ffurfiol yn niffyg unrhyw ateb arall.

Mae canllawiau’r llywodraeth yn annog cynghorau i ystyried y posibilrwydd o ofyn i ddatblygwyr gyflwyno ôl-gais os yw’r caniatâd cynllunio wedi cael ei dorri.

Efallai y bydd gan y cyngor bolisi gorfodaeth ysgrifenedig a dylech gael darllen y polisi hwn, neu efallai y bydd ar ei wefan.

 

Gwybodaeth bellach

Gall Cymorth Cynllunio Cymru roi gwybodaeth ddefnyddiol ar faterion cynllunio i chi. Gallwch eu ffonio ar 029 2048 5765 neu fynd i’r we yn https://www.planningaidwales.org.uk

Mae gwybodaeth am gynllunio hefyd ar gael yn https://www.planningportal.gov.uk/wales/public

Bydd gwefan y Cyngor ei hun hefyd efallai’n cynnwys gwybodaeth am rai materion cynllunio.

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent yn gwneud hynny bron bob tro.

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen