Cyflwyniad

Mae’r daflen ffeithiau hon yn egluro pryd a sut y gallwch gwyno i ni am ymddygiad cynghorwyr lleol. Mae hyn yn cynnwys aelodau ac aelodau cyfetholedig o

  • awdurdod lleol
  • cynghorau cymuned a thref,
  • awdurdodau tân ac achub,
  • awdurdodau parciau cenedlaethol a
  • paneli’r Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Rydym yn esbonio sut y byddwn yn deilio â’ch cwyn mewn taflen ffeithiau ar wahân (cliciwch yma).

Byddwch yn ymwybodol na allwn edrych ar gwynion am ymddygiad aelodau staff unigol y sefydliadau hyn. Fodd bynnag, os arweiniodd eu hymddygiad at driniaeth a oedd yn annheg â chi, neu os cawsoch wasanaeth gwael, gallwch gwyno am y sefydliad ei hun. I weld rhagor o wybodaeth am sut rydym yn deilio â’r cwynion hynny, cliciwch yma.

 

Beth yw torri’r Cod Ymddygiad

Mae holl aelodau etholedig a chyfetholedig y sefydliadau uchod yn rhwym wrth Godau Ymddygiad. Mae’n ofynnol ar bob un o’r sefydliadau i fabwysiadu Cod Ymddygiad ar gyfer ei aelodau sy’n seiliedig ar y Cod Ymddygiad Enghreifftiol a gyflwynwyd yng Nghymru yn 2008.

Mae’r Cod yn gosod safonau gofynnol y gellir eu gorfodi sy’n datgan sut y dylai cynghorwyr ymddwyn, yn broffesiynol ac (mewn rhai achosion) yn bersonol hefyd.

Mae enghreifftiau o’r ffyrdd y gallai cynghorydd dorri Cod Ymddygiad sefydliad yn cynnwys:

  • ymddwyn mewn ffordd sy’n dwyn anfri ar yr awdurdod;
  • defnyddio’i swydd yn annheg i gael mantais bersonol neu fantais i rywun arall – neu fychanu rhywun arall;
  • defnyddio adnoddau’r awdurdod yn amhriodol;
  • methu â datgan buddiant;
  • ymddwyn yn ormesol;
  • methu â thrin pawb yn gydradd; a
  • datgelu gwybodaeth gyfrinachol am unigolion heb reswm da.

Mae llawer o’r cwynion a ddaw atom yn ymwneud â phethau anweddus neu ddadleuol y mae cynghorwyr wedi’u dweud. Nid diben y Cod Ymddygiad yw atal dadl wleidyddol gadarn a rhaid i ni ystyried hawl yr aelod i ryddid mynegiant.

Fel arfer, gallwch ddod o hyd i gopi o God sefydliad ar ei wefan. Neu gallwch gael copïau gan y Swyddog Monitro neu Glerc pob sefydliad.

 

Pwy all cwyno?

Gall unrhyw un wneud cwyn, hyd â bod ganddynt wybodaeth uniongyrchol am yr ymddygiad y maent yn cwyno amdano.

Os ydych yn gynghorydd, o dan God eich sefydliad, mae’n rhaid i chi roi gwybod i Swyddog Monitro eich sefydliad am unrhyw dystiolaeth sydd gennych am un o’ch cyd-gynghorwyr yn torri’r Cod (lle mae gennych un).

Os ydych yn gynghorydd sir, os oes gan eich sefydliad broses datrysiad lleol, ac rydych am gwyno am gynghorydd arall o fewn eich awdurdod, yn y lle cyntaf, dylech wneud eich cwyn i Swyddog Monitro eich awdurdod. Y rheswm dros hyn yw ei bod hi’n bosibl y gall eich cwyn gael ei datrys yn lleol heb ymwnelo â ni. Er hynny, rhaid i chi gofio bod gennych hefyd gyfrifoldeb o dan y cod i beidio â gwneud cwynion blinderus (hynny yw, ni ddylid eu gwneud dim ond i godi helynt).

Mae gan rhai Cynghorau Tref a Chymuned broses datrys yn lleol y gellir ei defnyddio i ddatrys cwynion lefel isel rhwng cynghorwyr, fel arfer, gall y Clerc gynghori ynghylch a yw’n addas ei defnyddio.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Os ydych o’r farn bod aelod wedi, neu rydych yn amau ei fod wedi, torri Cod Ymddygiad ei sefydliad, efallai y gallwn ymchwilio i’ch cwyn.

Fel arfer gallwn ymchwilio i’ch cwyn os:

  • os oes tystiolaeth uniongyrchol i awgrymu bod y Cod wedi’i dorri; ac,
  • os oes angen cynnal ymchwiliad neu gyfeirio achos at y Panel Dyfarnu neu Bwyllgor Safonau er budd y cyhoedd.

Ein penderfyniad ni yw penderfynu a ydym am ymchwilio i gŵn o’r fath neu beidio.

Rydym yn esbonio yn fanylach sut y byddwn yn deilio â’ch cwyn mewn taflen ffeithiau ar wahân.

 

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn:

  • gosod sancsiynau megis atal cynghorydd dros dro neu ei wahardd;
  • gofyn i cynghorydd ymddiswyddo o’i swydd neu ei orfodi i wneud hynny;
  • gofyn i cynghorydd wneud rhyw fath o daliad fel iawndal neu ei orfodi i wneud hynny.

Os byddwn yn canfod bod modd cyfiawnhau’r gŵyn, ac yn ystyried bod cyfeirio’r gŵyn er budd y cyhoedd, gallwn ei chyfeirio naill ai at Bwyllgor Safonau’r sefydliad perthnasol, neu at dribiwnlys a gaiff ei gynnull gan Banel Dyfarnu Cymru. Y cyrff hyn sydd yna’n penderfynu a yw’r Cod Ymddygiad wedi’i dorri. Lle mae tystiolaeth o dorri, y Pwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru sy’n penderfynu ar, ac sy’n gosod, sancsiwn addas i’r cynghorydd.

 

Materion i gadw mewn cof

Rhaid i’ch cwyn fod yn ysgrifenedig. Mae’n well os ydych chi’n defnyddio’r ffurflen ar ein gwefan yma. Os nad ydych yn gallu llenwi’r ffurflen  eich hunain, cysylltwch â ni ar 0300 790 0203.

Rhaid i unrhyw gŵyn am ymddygiad cynghorydd  fod wedi’i chefnogi gan dystiolaeth uniongyrchol, yn hytrach na honiadau.

Wrth gyflwyno cwyn i ni fod cynghorydd wedi torri’r Cod Ymddygiad, mae’n hanfodol eich bod yn cynnwys cymaint o dystiolaeth â phosibl i gefnogi unrhyw gŵyn.  Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i ddweud wrthoch os nad ydych wedi rhoi digon o dystiolaeth i ni i gefnogi eich cwyn.

Pan fyddwch yn cwyno i ni, mae’n rhaid i chi roi eich enw i ni. Ni allwn edrych ar gwynion sydd wedi’u gwneud yn ddienw.

Wrth gyflwyno cwyn, rhaid i chi ddeall y byddwn yn datgelu eich manylion i’r cynghorydd rydych chi’n cwyno amdano. Os bydd angen, rhaid i chi hefyd fod yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar i gefnogi eich honiad. Yr unig eithriad y gallwn ei wneud i’r gofynion hyn yw os ydych yn gwneud cwyn chwythu’r chwiban.

I ddysgu sut y byddwn yn delio â’ch cwyn, gwelwch daflen ffeithiau ar wahan yma.