Cyflwyniad

Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio sut yr ydym yn edrych ar gwynion pan efallai fod gennych (neu’r unigolyn sy’n gweithredu ar eich rhan) rwymedi cyfreithiol ar gael yn y Llysoedd.

Dyma rai enghreifftiau o rwymedïau cyfreithiol a allai fod ar gael os ydych yn anfodlon â’r ffordd y mae corff cyhoeddus yng Nghymru wedi eich trin:

  • hawliad yn ymwneud ag esgeuluster clinigol mewn achosion iechyd
  • hawliad yn ymwneud â thorri contract os yw corff cyhoeddus wedi methu â gwneud rhywbeth y mae ef o dan rwymedigaeth gytundebol i’w wneud
  • neu hawliad yn ymwneud ag iawndal os yw corff cyhoeddus (neu rywun sy’n gwneud gwaith ar ei ran) wedi achosi difrod i eiddo rhywun.

Y gyfraith sy’n berthnasol pan mae’n ymddangos  bod dewis gennych i fynd ar drywydd rhwymedi cyfreithiol yn erbyn corff cyhoeddus

Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn dweud na allwn ymchwilio i gwynionam gyrff cyhoeddus yn cael pethau’n anghywir os oes gennych chi, neu os allai fod gennych, rwymedi cyfreithiol trwy’r Llysoedd.

Mae eithriad i’r rheol hon, sef os rydym yn fodlon bod amgylchiadau eich achos yn golygu nad yw’n rhesymol disgwyl ichi gymryd, neu ddisgwyl i chi fod wedi cymryd, camau cyfreithiol. Os felly, gallwn ymchwilio i gwynion am gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cael pethau’n anghywir yn y ffordd arferol.

Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein taflen ffeithiau ‘Yr hyn a wnawn pan dderbyniwn eich cwyn am gorff cyhoeddus yng Nghymru‘ ar y dudalen ‘Taflenni Ffeithiau’, o dan y tab ‘Amdanom ni’.

 

Beth a wnawn os yw’n ymddangos o’ch cwyn bod rhwymedi cyfreithiol ar gael ichi

Er mwyn i ni allu penderfynu’n deg a yw’n rhesymol ichi gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y corff cyhoeddus rydych yn cwyno amdano, gallwn  ofyn i chi am wybodaeth fel:

  • eich amgylchiadau personol a’r rhesymau pam nad ydych chi’n meddwl y gallwch chi gymryd camau cyfreithiol yn erbyn y corff cyhoeddus
  • y rhwymedi neu ganlyniad rydych chi’n edrych amdano
  • a ydych chi wedi gofyn i gyfreithiwr a/neu a oes gennych yswiriant cyfreithiol neu gymorth cyfreithiol i helpu i ariannu unrhyw gamau cyfreithiol

 

Materion i gadw mewn cof

Gellir canfod gwybodaeth fanylach ar ba gamau y gallwn ei ofyn i gorff cyhoeddus eu cymryd i ddatrys eich cwyn yn ein taflen ffeithiau Rhwymedïau, ar y dudalen ‘Taflenni Ffeithiau’, o dan y tab ‘Cwynion am ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus – ein proses’..

Os mai rhwymedi y mae’r Llysoedd yn ei ddyfarnu’n gyffredinol yw’r un rydych yn ei geisio, yna gallwn ddod i’r casgliad mai achos Llys yw’r llwybr priodol i chi ei ddilyn. Enghraifft o hyn yw iawndal ariannol sylweddol. Os ydych yn ceisio sawl rhwymedi gwahanol, er enghraifft, ymddiheuriad, atebion i’ch cwestiynau am y ffordd y cawsoch eich trin ac iawndal ariannol, byddwn yn ystyried yn ofalus y wybodaeth a ddarparwch wrth benderfynu a yw’n briodol i ni ystyried eich cwyn.

Os dewiswch beidio â chymryd camau cyfreithiol pan ymddengys bod hwn yn ddewis a oedd ar gael ichi ar adeg y digwyddiadau rydych yn cwyno amdanynt, bydd hyn yn cael ei ystyried.

 

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu ystyried eich cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru