Cyflwyniad

Mae telerau penodi’r Ombwdsmon a swyddogaethau cyfreithiol yr Ombwdsmon wedi eu nodi yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (“Deddf yr Ombwdsmon”).

 

Penodi

Mae’r Ombwdsmon yn cael ei benodi gan y Brenin yn dilyn argymhelliad gan Senedd Cymru. Mae’r penodiad am un cyfnod o saith mlynedd. Efallai y bydd angen i’r  Ombwdsmon roi’r gorau i’w swydd os bydd y Senedd yn argymell hyn i’r Brenin ac mae’r Brenin yn cytuno.

 

Atebolrwydd

Mae’r Ombwdsmon yn ddiduedd ac yn annibynnol. Mae hyn yn golygu y bydd yr Ombwdsmon (ac aelodau o’i staff) yn edrych ar gwynion yn annibynnol. Mae’r Ombwdsmon yn annibynnol ar yr holl lywodraeth ac mae ganddo’r pwerau a chyfrifoldebau cyfreithiol i adrodd yn uniongyrchol i’r Senedd. Mae’r Ombwdsmon yn adrodd yn ôl yn flynyddol i’r Senedd ar y gwaith a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn, y gwasanaeth cwynion ac ar sut y defnyddiwyd arian cyhoeddus.

 

Cyllido

Gan fod yr Ombwdsmon yn annibynnol o’r llywodraeth, y Senedd sy’n darparu’r cyllid (trwy Gronfa Gyfunol Cymru) ac nid Llywodraeth Cymru. Mae Deddf yr Ombwdsmon yn datgan bod yr Ombwdsmon yn “Gorfforaeth Unigol” sy’n golygu ei fod yn gorff cyfreithiol yn ei rhinwedd ei hun. Ni chaiff yr Ombwdsmon ei lywodraethu gan Fwrdd nac yn atebol i un o weinidogion y llywodraeth. Fodd bynnag, rydym wedi sefydlu Panel Cynghori o aelodau annibynnol i’n cynghori ar faterion polisi a llywodraethu da a chynnig safbwynt allanol ar ein gwasanaeth. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r cyfrifoldeb a’r atebolrwydd am waith a phenderfyniadau’r swyddfa aros gyda’r Ombwdsmon, ac nid oes gan y Panel Cynghori unrhyw rôl o ran ymdrin â chwynion unigol.

 

Rôl

Mae’r Ombwdsmon yn delio â chwynion gan aelodau o’r cyhoedd am gyrff a restrir yn Neddf yr Ombwdsmon. Mae’r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol yng Nghymru, byrddau iechyd, cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru.

Mae Deddf yr Ombwdsmon yn dweud mai mater i ni yw penderfynu a ddylid cychwyn, terfynu neu gwblhau ymchwiliad a chyhoeddi adroddiad. Pan mae aelod o staff yr Ombwdsmon wedi gwneud penderfyniad ar gŵyn, gall achwynydd ofyn i ni adolygu’r penderfyniad hwnnw lle mae tystiolaeth newydd yn cael ei darparu, neu lle mae’n glir nad yw rhywfaint o dystiolaeth wedi cael ei hystyried yn briodol. Bydd yr adolygiad mewnol hwn yn cael ei gynnal gan ein Swyddog Arwain ar Adolygiadau, neu uwch aelod arall o’r staff, nad oedd yn rhan o’r penderfyniad gwreiddiol.

Os yw achwynydd yn dymuno herio unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr Ombwdsmon neu ei staff, gall geisio cyngor cyfreithiol ynghylch a oes sail i herio ein penderfyniad drwy adolygiad barnwrol yn y llysoedd.

 

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni.