Mae’r Ombwdsmon yn gallu cynnal dau fath o ymchwiliad ar ei liwt ei hun:
Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio sut gall yr Ombwdsmon ddefnyddio ei bwerau estynedig i gynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am Ymchwiliadau ar ei Liwt ei Hun estynedig ar y dudalen ‘Ymchwiliadau Ar ei Liwt ei Hun‘, o dan y tab ‘Amdanom ni’.
Mae meini prawf (ar gael ar y dudalen ‘Ymchwiliadau Ar ei Liwt ei Hun‘, o dan y tab ‘Amdanom ni’) yr Ombwdsmon ar gyfer ymestyn ymchwiliad yn dweud, os ydy Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad i gŵyn yn barod, a’i fod yn dymuno cychwyn ymchwiliad ar ei liwt ei hun i faterion sydd â chysylltiad sylweddol â’r mater sydd eisoes yn cael ei ymchwilio, bydd yn dechrau ymchwiliad estynedig ar ei liwt ei hun.
Gellir cynnal ymchwiliad estynedig os oes gan yr Ombwdsmon amheuaeth resymol bod cwyn am:
Gyda chysylltiad agos â:
A:
Dyma rai enghreifftiau o faterion a allai fod yn destun ymchwiliad estynedig:
Mae ymchwiliadau i faterion o’r fath yn debygol o fod o ‘fudd i’r cyhoedd’ os ydyn nhw:
Efallai y bydd yr Ombwdsmon eisiau ymestyn neu fynd ag ymchwiliad byw i gyfeiriad cysylltiedig arall gan archwilio cofnodion, cyngor proffesiynol a thystiolaeth arall sydd yn nodi pryderon y tu hwnt i’r rheini yn y gŵyn a dderbyniwyd, sy’n bodloni’r meini prawf yn ôl pob tebyg.
Os bydd yr Ombwdsmon o’r farn bod angen ymchwiliad estynedig ar ei liwt ei hun mewn perthynas â’ch cwyn, rhoddir gwybod i chi a’r corff cyhoeddus dan sylw, a bydd cyfle i chi wneud sylwadau a/neu gyflwyno tystiolaeth fel rhan o’r broses ymchwilio.
Pan fydd yr Ombwdsmon wedi cychwyn ymchwiliad estynedig, bydd yn cael ei reoli yn unol â phrosesau trin cwynion presennol yr Ombwdsmon.
Os ydy’r ymchwiliad estynedig yn ymwneud â gwasanaethau iechyd a bod y rheoliadau ‘Gweithio i Wella’ yn berthnasol, rhoddir cyfle i’r achwynydd fwrw ymlaen â’r mater o dan y rheoliadau hyn fel dewis arall.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch chi am ein gwasanaeth, cysylltwch â ni:
0300 790 0203