Cyflwyniad

Gallwn gynnal dau fath o ymchwiliad ar ein liwt ein hunain:

  • Ymchwiliad Estynedig – gellir dechrau ymchwiliad o’r fath pan fyddwn yn penderfynu, yn ystod ymchwiliad sy’n bodoli’n barod, bod materion ychwanegol, neu weithredoedd corff arall mewn awdurdodaeth, yn awgrymu bod achos o gamweinyddu a/neu fethiant gwasanaeth.
  • Ymchwiliad Ehangach ar ein liwt ein hunain – ymchwiliad annibynnol yw hwn na fydd fel arfer yn ymwneud â chwyn neu unigolyn penodol. Gellir dechrau ymchwiliad ehangach ar ein liwt ein hunain pan fydd tystiolaeth o gamweinyddu systemig neu eang a/neu fethiant gwasanaeth ar ran corff (neu gyrff) mewn awdurdodaeth, neu botensial i hynny’n digwydd. Mae ymchwiliadau ehangach ar ein liwt ein hunain yn rhoi cyfle i ni ddarparu gwasanaeth sy’n ymatebol i faterion cyfredol, sy’n canolbwyntio ar ddinasyddion ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio sut gallwn ddefnyddio ein pwerau ehangach i gynnal ymchwiliad ar ein liwt ein hunain o dan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am ymchwiliadau ar ein liwt ein hunain estynedig ar y dudalen ‘Ymchwiliadau Ar ein Liwt ein Hunain‘ o dan y tab, ‘Amdanom ni’.

 

 

Beth allwn ei wneud

Mae gennym ddisgresiwn i ddechrau ymchwiliad ehangach ar ein liwt ein hunain mewn perthynas ag unrhyw gyrff dan awdurdodaeth i ystyried a oes tystiolaeth sy’n:

  • awgrymu bod camweinyddu systemig/methiant gwasanaeth wedi digwydd
  • nodi bod camweinyddu systemig/methiant gwasanaeth yn bodoli
  • nodi bod potensial i gamweinyddu systemig/methiant gwasanaeth ddigwydd
  • awgrymu y gallai camweinyddu neu fethiant gwasanaeth a nodwyd fod yn fwy eang a systemig

Gall ymchwiliad ehangach ar ein liwt ein hunain ganolbwyntio ar wasanaeth neu wasanaethau a ddarperir gan gorff unigol dan awdurdodaeth neu ystyried yr un materion ar draws un neu ragor o gyrff dan awdurdodaeth.

Gallwn, fel rhan o ymchwiliad ehangach ar ein liwt ein hunain, ystyried gweithredoedd a gwasanaethau a ddarparwyd cyn i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2019 ddod i rym.

 

Sut byddwn yn penderfynu

Byddwn yn defnyddio ein disgresiwn i benderfynu a oes angen dechrau ymchwiliad. Byddwn yn ystyried tystiolaeth sydd ar gael i sefydlu a fodlonir y meini prawf i ddechrau ymchwiliad, gan gynnwys;

  • A yw’r mater er budd y cyhoedd
  • A oes amheuaeth resymol bod camweinyddu systemig a allai beri i unigolyn, neu grŵp o bobl, gynnal anghyfiawnder neu galedi
  • Pa un ai a yw’r pryderon yn debygol o effeithio ar grŵp eang o ddinasyddion neu unigolion, yn enwedig os gallent fod yn agored i niwed neu dan anfantais ac yn ymddangos yn debygol o gynnal anghyfiawnder neu galedi o ganlyniad
  • Swm y dystiolaeth
  • Natur ddarbwyllol y dystiolaeth

Nid oes diffiniad sy’n cael ei dderbyn yn eang ar gyfer budd y cyhoedd, ond mae wedi cael ei ddisgrifio fel “rhywbeth sydd o bwysigrwydd a diddordeb sylweddol i’r cyhoedd”. Mae budd y cyhoedd felly’n ymwneud â rhywbeth sy’n effeithio ar y cyhoedd. Mae’n golygu mwy na rywbeth mae gan y cyhoedd ddiddordeb ynddo, neu fater sy’n effeithio ar unigolyn a neb arall (ond gallai’r mater effeithio’n fwy uniongyrchol ar yr unigolyn na’r cyhoedd yn ehangach).

Nid ydy cyhoedd yn y cyd-destun hwn yn golygu poblogaeth gyfan Cymru o reidrwydd. Gall gyfeirio at ran benodol o’r cyhoedd, megis cymuned fach neu grŵp buddiant.

Gallwn ystyried tystiolaeth o nifer o ffynonellau, gan gynnwys:

  • Cwynion a/neu’r corff y cwynwyd amdano
  • Tyst/tystion
  • Darparwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill, Rheoleiddwyr, sefydliadau trydydd sector a thrydydd partïon eraill
  • Y Cyfryngau
  • Achwynwyr dienw
  • *Chwythwyr chwiban (gweler isod)
  • Pryderon sy’n codi o gwynion a dderbyniwyd a/neu yr ymchwiliwyd iddynt gennym gan aelodau o’r cyhoedd, neu wybodaeth a gafwyd drwy waith gwella’r swyddfa.

 

Proses yr ymchwiliad ar ein liwt ein hunain

Pan fyddwn o’r farn bod angen dechrau ymchwiliad a bod y meini prawf yn cael eu bodloni, byddwn yn ymgynghori â Chomisiynwyr Cymru, cyrff rheoleiddio eraill a/neu’r Archwilydd Cyffredinol ar bwnc ein hymchwiliad arfaethedig. Efallai y bydd yn bosibl, mewn rhai amgylchiadau, cydweithredu ag un o’r cyrff hyn i gynnal ymchwiliad ar y cyd a llunio adroddiad ar y cyd.

Gall hefyd fod yn briodol ceisio barn y cyhoedd yn ehangach, drwy hysbysebu manylion yr ymchwiliad arfaethedig ar ein gwefan, yn y cyfryngau a/neu drwy gynnal digwyddiadau trafod.

Yn dilyn ymgynghori, bydd cynnig i ymchwilio yn cael ei anfon at y corff neu’r cyrff i’w cynnwys yn yr ymchwiliad, gyda gwahoddiad i wneud sylwadau, mynegi barn a rhoi sylwadau ar briodoldeb ymchwilio.

Os byddwn, ar ôl ystyried sylwadau gan y corff, neu’r cyrff, a gynhwysir yn yr ymchwiliad arfaethedig, yn penderfynu ei bod yn briodol bwrw ymlaen, bydd manylion a chwmpas yr ymchwiliad yn cael eu rhannu gyda’r cyrff dan sylw. Bydd yr ymchwiliad yn cael ei reoli yn unol â’n prosesau trin cwynion presennol.

 

Beth na allwn ei wneud

Er y gallwn ystyried gwybodaeth a ddarperir gan unigolion a all fodloni’r diffiniad statudol o chwythwr chwiban, nid ydynt yn unigolyn rhagnodedig o dan Orchymyn Datgelu er Lles y Cyhoedd (Personau Rhagnodedig) 2014. Mewn amgylchiadau o’r fath, byddwn yn cyfeirio unrhyw chwythwyr chwiban posibl at y corff dan sylw neu’r unigolyn rhagnodedig priodol ar gyfer y math hwnnw o gŵyn. Ni fydd unrhyw ymchwiliad sy’n deillio o hyn yn disodli nac yn ymyrryd â dyletswyddau, cyfrifoldebau a phrosesau chwythu’r chwiban y cyrff cyhoeddus dan sylw.

Ni fydd ymchwiliadau ar ein liwt ein hunain fel arfer yn cael eu dechrau i ystyried digwyddiadau neu gwynion penodol o gamweinyddu/methiant gwasanaeth sy’n effeithio ar aelodau unigol o’r cyhoedd yn unig. Mae materion o’r fath yn fwy priodol i’w hystyried gan ddefnyddio ein pwerau ymchwilio cyffredinol.

 

Cysylltu â ni

Os ydych chi’n dymuno awgrymu ymchwiliad, gallwch wneud hynny ar dudalen awgrymiadau ‘Ymchwiliadau Ar ein Liwt ein Hunain’, o dan y tab ‘Amdanom ni’

Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch chi am ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, cysylltwch â ni.

Areiliwteihun @ombwdsmon.cymru