Cynnwys

Mae’r Daflen Ffeithiau hon yn sôn am gwynion ynghylch Derbyn i Ysgolion ac Apeliadau. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Dylid cwyno ynghylch derbyn i ysgolion i’r Awdurdod Addysg Lleol perthnasol yn y lle cyntaf, ond gallwch gwyno ynghylch apeliadau derbyn i ysgolion yn syth i ni.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Gallwn:

  • edrych ar gwynion ynghylch gweithdrefnau derbyn i ysgolion yng Nghymru, a’r broses apelio ar gyfer derbyn i ysgolion;
  • edrych ar gwynion gan rieni sy’n credu bod Awdurdod Addysg Lleol wedi gweithredu ei weithdrefn derbyn i ysgolion yn annheg;
  •  edrych ar gwynion gan rieni sy’n credu bod Panel Apêl Derbyn i Ysgolion wedi ymddwyn yn amhriodol.

Os ydych yn dymuno cwyno i ni, cofiwch wneud hynny cyn gynted â phosibl.

 

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn:

  • gorfodi Awdurdod Addysg Lleol i gynnig lle mewn ysgol i’ch plentyn;
  • mynd yn groes i benderfyniad a wnaed gan Banel Apêl Derbyn i Ysgolion – fodd bynnag, os ydym yn credu bod gwrandawiad y Panel yn amhriodol neu’n annheg, efallai y byddwn yn argymell bod Panel newydd yn clywed yr apêl;
  • edrych i achosion derbyn neu apeliadau yng nghyswllt ysgolion Annibynnol.

 

Materion i gadw mewn cof

  • Nid oes gan blentyn hawl absoliwt i le yn ysgol ddewisol y rhieni;
  • Pan fydd mwy o geisiadau i fynychu ysgol na’r lle sydd ar gael, rhaid i Awdurdodau Addysg Lleol ddefnyddio eu ‘meini prawf ysgolion gorlawn’ i flaenoriaethu’r ceisiadau. Yn gyffredinol, ni all fod mwy na 30 plentyn mewn dosbarth babanod;
  • Mae Paneli Apêl yn anibynnol ar yr Awdurdod Addysg Lleol ac yn clywed achosion yr Awdurdod Addysg Lleol a’r rhieni;
  • Mae rhaid i Baneli Apêl benderfynu a ddylai rhesymau’r rhieni dros fod eisiau i’w plentyn gael ei dderbyn i ysgol neilltuol droi’r fantol yn erbyn unrhyw anfantais i’r ysgol pe bai’n derbyn eu plentyn.

 

Gwybodaeth bellach

Rhaid i Awdurdodau Addysg Lleol a Phaneli Apêl Derbyn i Ysgolion ystyried y Codau Statudol ar Dderbyn i Ysgolion ac Apeliadau. Gallwch lawrlwytho copïau o wefan Llywodraeth Cymru yn

https://llyw.cymru/y-cod-derbyn-i-ysgolion

https://llyw.cymru/y-cod-apelau-derbyn-i-ysgolion

Rydym yn annibynnol a di-duedd; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn yr ydym yn ei argymell – ond mewn gwirionedd maent hwy yn gwneud hynny bron bob tro. Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

/

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru