Cyflwyniad

Mae’r Taflen Ffeithiau hon yn sôn am Gyllid Myfyrwyr. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

Os ydych chi yn byw fel arfer yng Nghymru ac yn astudio naill ai yng Nghymru, neu yn unrhyw le arall yn y DU, mae’n bosibl bod gennych hawl i gael cyllid myfyrwyr i dalu costau eich ffioedd dysgu a’ch costau byw.

Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu cyllid, ar ran Llywodraeth Cymru, tuag at y ffioedd a’r costau byw sy’n wynebu myfyrwyr wrth astudio mewn addysg uwch. Y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr (CBF), fel un o asiantau Llywodraeth Cymru, sy’n gyfrifol am asesu a yw myfyrwyr yn gymwys i gael cymorth ariannol, ac am brosesu a thalu benthyciadau a grantiau i fyfyrwyr.

Mae gan CBF, sy’n disgyn o dan y brand Cyllid Myfyrwyr Cymru, drefn gwyno y dylid cyfeirio cwynion ati. Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad ynghylch a ydych yn gymwys i gymorth ariannol, mae angen i chi ddilyn y broses apelio. Er nad yw’r CBF yn gorff sydd o fewn ein hawdurdodaeth, pan fo’r CBF yn cyflawni un o swyddogaethau Llywodraeth Cymru (wrth weinyddu a phrosesu grantiau a lwfansau i fyfyrwyr yng Nghymru), mae ei weithredoedd o fewn ein hawdurdodaeth. Fodd bynnag, rhaid i chi gwyno wrth y CBF cyn cyflwyno eich cwyn i ni.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Mae’n bosibl i ni ystyried cwynion am y canlynol:

  • cyfathrebu gwael;
  • swyddogaeth awdurdodau lleol o ran asesu / ailasesu a gweinyddu ceisiadau am gyllid myfyrwyr;
  • methiant i weinyddu grantiau a lwfansau ar ôl penderfyniad bod hawl iddynt.

 

Yr hyn na allwn ei wneud

Ni allwn:

  • ystyried cwynion am faterion sy’n ymwneud â chyllid myfyrwyr nad ydynt wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru – e.e. y cynllun Ad-dalu Benthyciadau Athrawon;
  • ystyried apeliadau yn erbyn penderfyniadau sydd wedi’u gwneud yn briodol.

 

Materion i gadw mewn cof

Nid oes angen i chi ddefnyddio cyfreithiwr neu eiriolwr arall i gyflwyno cwyn i ni; mae ein gwasanaeth yn ddi-dâl ac yn ddiduedd ac rydym yn ceisio gofalu bod y broses mor hawdd â phosibl i achwynwyr ei dilyn.

 

Gwybodaeth bellach

Gallwch gael cyngor annibynnol di-dâl gan eich Cyngor ar Bopeth leol a all eich helpu i gyflwyno cwyn: https://www.citizensadvice.org.uk/cymraeg/

Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am sut i gwyno am gyllid myfyrwyr ar y gwefannau canlynol:

Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen