Cynnwys

Mae hon yn Daflen Ffeithiau am gwynion cyffredinol yn erbyn ysgolion. Dylid ei darllen ochr yn ochr â’n tudalen we ‘Sut i Gwyno’, sydd ar gael o dan y tab ‘Gwneud Cwyn’.

 

Os yw’ch cwyn yn ymwneud â derbyn i ysgol, gwaharddiadau o ysgol neu anghenion addysgol arbennig, rydym wedi cynhyrchu taflenni ffeithiau ar wahân, penodol, sy’n edrych ar y pynciau hyn.

 

Yr hyn gallwn ei wneud

Fel yr esbonia’r adran nesaf, mae ein rôl o ran cwynion yn erbyn ysgolion yn gyfyngedig iawn. Er ein bod weithiau’n gallu ymchwilio i gwynion yn erbyn gweithredoedd awdurdod o ran ochr weinyddol trefn gwyno neu adolygu, ni fyddai hyn yn cynnwys ystyried y prif faterion sy’n arwain at y gŵyn.

O ganlyniad, er bod modd i ni ystyried cwyn fod cyngor lleol (fel rhan o’i swyddogaeth fel Awdurdod Addysg Lleol), er enghraifft, wedi cymryd gormod o amser i adolygu cwyn yn erbyn proses gwyno ysgol, ni allwn ystyried y materion a godwyd yn wreiddiol yn y gŵyn i’r ysgol ei hun.

Oherwydd natur gyfyngedig ein pwerau o ran materion yn ymwneud ag ysgolion, byddem yn eich annog i gysylltu â ni cyn anfon cwyn ysgrifenedig atom i weld a ydym yn debygol o allu ystyried eich cwyn.

 

Yr hyn nad ydym yn gallu ei wneud

Mae ein rôl yn achos cwynion yn erbyn ysgolion yn cael ei chyfyngu’n fawr gan y gyfraith.

  • Ni allwn ystyried cwynion yn erbyn unrhyw gamau a gymerwyd gan ysgol neu ei gorff llywodraethu o ran dysgu, ymddygiad, y cwricwlwm, trefniadaeth fewnol, rheoli neu ddisgyblu. Mae hyn yn golygu bod y tebygolrwydd y bydd gennym unrhyw bwerau i ymchwilio i gŵyn yn erbyn ysgol (heblaw am y materion cyfyngedig iawn y cyfeiriwyd atynt uchod neu ynghylch unrhyw faterion penodol sydd wedi cael sylw yn ein taflenni ffeithiau ar wahân a grybwyllwyd uchod) yn isel.

 

Materion i gadw mewn cof

Nid oes gan Awdurdodau Addysg Lleol ac awdurdodau esgobol (yn achos ysgolion ffydd) rôl statudol o ran datrys cwynion yn erbyn ysgolion gan mai corff llywodraethu’r ysgol sy’n gyfrifol am hynny.

 

Gwybodaeth bellach

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i gyrff llywodraethu ysgolion ar strwythur trefn gwyno ffurfiol. Mae copi o’r canllaw ar gael ar wefan Llywodraeth  Cymru yn:  https://www.llyw.cymru/gweithdrefnau-cwyno-ysgolion-canllawiau

Rydym yn annibynnol ac amhleidiol; ni allwn orchymyn cyrff cyhoeddus i wneud yr hyn rydym yn ei argymell – ond, yn ymarferol, maent yn gwneud hynny bron yn ddieithriad. Mae enghreifftiau o achosion yr ydym wedi edrych arnynt ar gael ar ein gwefan, o dan y tab ‘Cyhoeddiadau’ ar y dudalen ‘Ein Canfyddiadau’.

 

Cysylltu â ni

Os ydych yn ansicr a fyddwn yn gallu edrych i mewn i’ch cwyn, cysylltwch â ni, drwy ffonio 0300 790 0203 neu ebostio holwch@ombwdsmon.cymru

 

Hawdd ei Ddarllen