Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn rhestru’r math o sefydliadau y gallwn ystyried cwynion yn eu cylch. Mae’r rhestr isod yn seiliedig ar Atodlen 3 y Ddeddf. Fodd bynnag, mae modd i’r rhestr hon newid. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd cyrff newydd perthnasol yn cael eu creu, ac efallai y bydd rhai eraill yn cael eu diddymu, a gall ailstrwythuro sector gwasanaeth cyhoeddus achosi newidiadau o ran enwau a swyddogaethau.
Os ydych chi’n ansicr a yw corff o dan ein hawdurdodaeth, cysylltwch â ni.
Llywodraeth Cymru
Comisiwn y Senedd
Awdurdod lleol yng Nghymru
Bwrdd ar y cyd y mae ei awdurdodau cyfansoddol oll yn awdurdodau lleol yng Nghymru
Awdurdod tân ac achub yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo
Comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru
Panel cynllunio strategol
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd
Awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru
Corff Adnoddau Naturiol Cymru
Asiantaeth yr Amgylchedd
Y Comisiynwyr Coedwigaeth
Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol
Gofal Cymdeithasol Cymru
Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru
Bwrdd Iechyd Lleol
Ymddiriedolaeth GIG sy’n rheoli ysbyty neu sefydliad neu gyfleuster arall yng Nghymru
Awdurdod Iechyd Arbennig nad yw’n cyflawni swyddogaethau yn Lloegr yn unig neu’n bennaf
Cyngor Iechyd Cymuned
Darparwr annibynnol yng Nghymru
Darparwr gwasanaeth iechyd teulu yng Nghymru
Person â swyddogaethau a roddir gan reoliadau a wneir o dan adran 113(2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43)
Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru
Swyddfa Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Her Majesty’s Chief Inspector of Education and Training in Wales (Estyn)
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
Panel apêl derbyn a gyfansoddwyd yn unol â rheoliadau o dan adran 94(5) neu 95(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)
Corff llywodraethu unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol i’r graddau y mae’n gweithredu mewn cysylltiad â derbyn disgyblion i’r ysgol neu fel arall yn cyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31)
Panel apêl gwahardd a gyfansoddwyd yn unol â rheoliadau o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32)
Cymwysterau Cymru
Cyngor Celfyddydau Cymru.
Cyngor Chwaraeon Cymru
Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu
Byrddau Cadwraethwyr Coity Walia
Comisiynydd y Gymraeg
Awdurdodau harbwr yng Nghymru (ac mae i “awdurdod harbwr” yr ystyr a roddir i “harbour authority” yn adran 313(1) o Ddeddf Llongau Masnach 1995 (p.21)) ac awdurdodau porthladd yng Nghymru (ac ystyr “awdurdod porthladd” yw awdurdod harbwr, neu os nad oes awdurdod o’r fath, y person sydd â rheolaeth am weithrediad y porthladd)—
Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Bwrdd Cadwraethwyr Towyn Trewan