Swyddog Ymchwilio
Math o Gontract: | Parhaol |
Patrwm Gwaith: | Llawn amser |
Oriau Gwaith: | 37 awr yr wythnos |
Cyflog: | £33,486 – £44,625 p.a. |
Lleoliad: | Gweithio hybrid (Pen-y-bont ar Ogwr) neu weithio o bell.
(Mae gweithio hybrid i ni yn golygu gweithio yn y swyddfa ym Mhen-y-bont ar Ogwr am rhwng un a thri diwrnod yr wythnos a’r gweddill o gartref) |
Math o Swyddogaeth: | Ymchwiliadau |
A ydych chi yn teimlo yn angerddol dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a dros sicrhau bod modd troi at system gwynion annibynnol pan fydd gwasanaethau yn methu?
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddogion Ymchwilio sy’n gyfrifol am ymchwilio i gwynion gan aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd rhyw fethiant ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’r Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion a wnaed am Gynghorion o fewn awdurdodau lleol yng Nghymru a allai fod wedi torri cod ymddygiad statudol eu cyngor.
Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy’n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws llu o feysydd. Wrth ddarparu profiad cwsmer da trwy gydol y broses, byddwch yn:
Mae disgrifiad swydd llawn a gwybodaeth ychwanegol yma.
Beth ydym yn chwilio amdano
Croesewir ceisiadau gan ystod eang o brofiad ac arbenigedd gan gynnwys y rhai sy’n gweithio gyda gwaith achos neu rolau ymchwilio yn y gwasanaethau proffesiynol/sector cyhoeddus. Mae’r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.
Sut mae hyn o fudd i chi?
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: recriwtio@@ombwdsmon.cymru erbyn hanner dydd, dydd Llun 5 Medi 2022.
Bydd eich ymatebion ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio rhestr fer.
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.
Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.