Math o Gontract: Parhaol
Patrwm Gwaith: Llawn amser
Oriau Gwaith: 37 awr yr wythnos
Cyflog: £37,338 – £48,474 y flwyddyn
Lleoliad: Gweithio hybrid neu o bell
Math o Swyddogaeth: Ymchwiliadau

A ydych chi’n teimlo’n angerddol am wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau, pan fydd gwasanaethau’n methu, y gellir troi at rywun am gymorth drwy system gwyno annibynnol?  Oes gennych chi brofiad o ymchwiliadau i gwynion cymhleth neu ymchwiliadau safonau moesegol a/neu reoleiddiol?

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn dymuno recriwtio Swyddogion Ymchwilio yn ymchwilio i gwynion oddi wrth aelodau’r cyhoedd am driniaeth annheg neu wasanaeth gwael oherwydd diffyg o ryw fath ar ran cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Bydd yr Ombwdsmon hefyd yn ymchwilio i gwynion a wneir am Gynghorwyr mewn awdurdodau lleol yng Nghymru a allai, o bosib, fod wedi torri Cod Ymddygiad statudol eu cyngor.

Fel Swyddog Ymchwilio, byddwch yn canolbwyntio ar yr achosion mwyaf difrifol ac yn rheoli llwyth achosion sy’n amrywio o ran cymhlethdod, ar draws nifer o feysydd.  Gan ddarparu profiad da i gwsmeriaid drwy gydol y broses, byddwch yn:

  • Dadansoddi gwybodaeth fanwl er mwyn cyrraedd a deall craidd y gŵyn
  • Canfod a chael tystiolaeth yn brydlon
  • Gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth, a chyflwyno’r penderfyniadau hyn mewn adroddiadau ysgrifenedig grymus
  • Ymgysylltu’n effeithiol â’r achwynydd drwy gydol yr ymchwiliad
  • Datrys achosion drwy ymgysylltu’n adeiladol

Mae disgrifiad swydd llawn a gwybodaeth ychwanegol ar ein gwefan.

Am beth rydyn ni’n chwilio?

  • Profiad sylweddol, ymarferol a chymharol o gynnal ymchwiliadau manwl, gan arwain at ganlyniadau cymesur
  • Profiad o ymchwiliadau i gwynion cymhleth neu ymchwiliadau safonau moesegol a/neu reoleiddiol
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig rhagorol gyda phrofiad sylweddol o ddrafftio dogfennau cymhleth sy’n cyfleu dadansoddiad manwl mewn ffordd syml
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar a’r gallu i gwrdd â rhanddeiliaid wyneb yn wyneb, o bell neu dros y ffôn
  • Sgiliau rheoli achosion effeithiol a’r gallu i flaenoriaethu gofynion sy’n cystadlu â’i gilydd
  • Gallu diamheuol i weithio’n dda yn annibynnol ac fel aelod o dîm

I wneud cais am y rôl hon, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o’ch profiad a’ch arbenigedd wrth gynnal ymchwiliadau cymhleth mewn gwasanaethau proffesiynol/y sector cyhoeddus neu ymchwiliadau safonau rheoleiddiol a/neu foesegol.  Byddai’r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.  .

Beth yw’r manteision i chi?

  • Cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn, gan ddarparu cyfiawnder ac arwain at welliannau
  • Amrywiaeth o waith achos – does dim un achos yr un fath
  • Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 diwrnod.
  • Mae’r manteision eraill yn cynnwys: Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Oriau Hyblyg, Aelodaeth o Gampfa, Cynllun Arian Iechyd a Chynlluniau Prynu Rhatach.
  • Cyfleusterau rhagorol ar y safle ac offer ar gyfer gweithio gartref.
  • Cwnsela allanol a chymorth iechyd galwedigaethol am ddim.

I wneud cais

Ewch i’n gwefan (www.ombwdsmon.cymru) i gael gafael ar y pecyn recriwtio.

Cyflwynwch eich Ffurflen Gais a’ch Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal drwy ebost at: recruitment@ombudsman.wales erbyn hanner dydd (12 pm) dydd Llun 22 Ebrill 2024.  Rydym yn cadw’r hawl i gau’r cyfle hwn yn gynnar os daw digon o geisiadau i law, felly peidiwch ag oedi cyn cyflwyno eich cais. 

Bydd yr ymatebion a roddwch yn y ffurflen gais yn cael eu defnyddio i lunio’r rhestr fer ar gyfer y rôl.

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.

Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo’n weithredol i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arferion da yn y ffordd rydym yn denu, yn recriwtio ac yn cadw staff.

Rydym yn annog pawb i ddod â nhw eu hunain yn llwyr i’r gwaith oherwydd ein bod yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu gwirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oed, anabledd, hunaniaeth o ran rhywedd a mynegiant, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.

Pecyn recriwtio

Disgrifiad Swydd

Ffurflen ymgeisio

Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal

Hysbysiad Preifatrwydd