Dewis eich iaith
Cau

Rydym yn awyddus i benodi o leiaf un Swyddog Gwaith Achos, a fydd yn gweithio yn nhîm delio â chwynion rheng flaen yr Ombwdsmon.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ystyried ac ymateb i gwynion ar ran yr Ombwdsmon. Bydd Swyddogion Gwaith Achos yn gyfrifol am eu baich achosion eu hunain ac mae gallu rheoli gwaith achos yn hanfodol. Mae sgiliau cyfathrebu llafar ardderchog hefyd yn hanfodol, gan fod y rôl yn cynnwys cyswllt uniongyrchol dros y ffôn a phersonol ag achwynwyr a chynrychiolwyr cyrff o fewn awdurdodaeth yr Ombwdsmon.

Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma am y Pecyn Cais Llawn.