Rheolwr Cyllid
Math o Gontract: |
Parhaol |
Patrwm Gwaith: |
Rhan amser |
Oriau Gwaith: |
22 awr yr wythnos |
Cyflog: |
£56,904 – £60,429 pro rata |
Lleoliad: |
Gweithio hybrid – Pen-y-bont ar Ogwr (C35 5LJ)/Home |
A ydych chi’n angerddol dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru?
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus am recriwtio Rheolwr Cyllid i’w chynorthwyo yn ei rôl fel Swyddog Cyfrifyddu drwy roi cyngor ariannol strategol, sicrhau rheolaeth ariannol gadarn a thrwy roi sicrwydd ynghylch cadernid prosesau ariannol yr Ombwdsmon.
Fel Rheolwr Cyllid, byddwch yn:
- Gweithio fel aelod annatod o’r Uwch Dîm Rheoli.
- Paratoi’r gyllideb flynyddol gan sicrhau ei bod yn cael ei chyflwyno o fewn yr amserlen sy’n ofynnol yn Neddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.
- Paratoi a chynhyrchu’r cyfrifon diwedd blwyddyn i’r safonau a’r amserlenni sy’n ofynnol yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol y Llywodraeth (FReM) a chan Archwilwyr Allanol yr Ombwdsmon.
- Gweithio gyda’r Tîm Rheoli i ddatblygu strategaeth ariannol tymor canolig a thymor hir sy’n cefnogi Cynllun Strategol yr Ombwdsmon.
- Cynghori a chynorthwyo’r Prif Swyddog Gweithredu a Chyfarwyddwr Gwella i ddatblygu, gweithredu a rheoli gweithdrefnau rheoli cyllidebol ac ariannol.
- Mynychu’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg.
- Rhoi cyngor ariannol i’r Ombwdsmon, y Prif Swyddog Gweithredu a’r Tîm Rheoli.
- Adolygu polisïau a gweithdrefnau ariannol ac argymell unrhyw newidiadau angenrheidiol.
Mae disgrifiad swydd llawn a gwybodaeth ychwanegol yma.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano
- Profiad sylweddol, ymarferol a chymaradwy ym maes cyllid
- Cymhwyster cyfrifyddiaeth proffesiynol cydnabyddedig, ACCA, ACMA, ACA, CIPFA
- Gwybodaeth am weithdrefnau cyfrifyddiaeth a chyllidebol y sector cyhoeddus, gan gynnwys gofynion Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru a chyfrifoldebau Swyddog Cyfrifyddu
- O leiaf 3 blynedd o brofiad rheoli ariannol gan gynnwys paratoi cyllidebau a chyfrifon ac ymgysylltu â gwaith archwilio mewnol ac allanol
- Y gallu i gyflwyno gwybodaeth gymhleth mewn ffordd ddealladwy
- Sgiliau technegol a TG cadarn, ynghyd â phrofiad o weithio gyda thaenlenni a systemau ariannol
- Cyfathrebwr hynod effeithiol gyda’r gallu i feithrin perthnasoedd gwaith effeithiol
I wneud cais am y rôl hon bydd angen i chi gyflwyno eich CV a chynnwys datganiad ategol sy’n dangos tystiolaeth o’ch profiad a’ch arbenigedd yn elfennau hanfodol a dymunol y disgrifiad swydd.
Sut mae hyn o fudd i chi?
- Cyfle i weithio mewn Sefydliad sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac sy’n darparu cyfiawnder ac yn arwain at welliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus
- Gweithio hybrid, cymysgedd o weithio achlysurol ar y safle a gweithio o gartref
- Cyflog cystadleuol a lwfans gwyliau blynyddol hael o 32 diwrnod y flwyddyn (pro rata) gyda gwyliau banc ar ben hynny
- Buddion eraill gan gynnwys: Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, Cynllun Amser hyblyg, Aelodaeth gampfa am bris gostyngol, Health Cash Plan a Chynlluniau Prynu am Bris Gostyngol.
- Cyfleoedd gwych ar gyfer datblygiad personol gan gynnwys 28 awr y flwyddyn o ddatblygiad proffesiynol parhaus
- Cyfleusterau ar y safle ardderchog ac offer ar gyfer gweithio o gartref
- Cwnsela allanol rhad ac am ddim a chefnogaeth iechyd galwedigaeth
Sut i ymgeisio
Cyflwynwch eich CV a datganiad ategol ynghyd â’r Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal drwy e-bost at: recriwtio@ombwdsmon.cymru erbyn 12 canol dydd 6 Mehefin 2023. Rydym yn cadw’r hawl i gau’r swydd wag hon yn gynnar os daw digon o geisiadau i law.
Caiff y datganiad ategol a gyflwynwch ynghyd â’ch CV eu defnyddio i lunio rhestr fer o’ch cais.
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal.
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i bopeth a wnawn. Rydym wedi ymrwymo yn ddiwyd i hyrwyddo a chymryd rhan mewn arfer da yn y ffordd yr ydym yn denu, recriwtio a chadw staff.
Caiff pawb eu hannog i ddod â’u hunan yn gyfan i’r gwaith oherwydd rydym yn gwerthfawrogi’r gwerth y mae gweithlu sy’n wirioneddol amrywiol yn ei roi i sefydliad. Rydym yn dathlu gwahaniaeth, gan gydnabod y buddion a ddaw yn sgil hyn i’n diwylliant cynhwysol, gan gynnwys oedran, anabledd, hunaniaeth rhywedd, crefydd, hil, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir economaidd-gymdeithasol.
Pecyn Recriwtio
Disgrifiad Swydd
Ffurflen Monitro Cyfleoedd Cyfartal
Hysbysiad Preifatrwydd