Cyflwyniad

Mae’r daflen ffeithiau hon yn esbonio beth sy’n digwydd ar ôl i chi gwyno i ni am ymddygiad cynghorwr lleol. Mae hyn yn cynnwys aelodau ac aelodau cyfetholedig o

  • awdurdod lleol
  • cynghorau cymuned
  • awdurdodau tân ac achub
  • awdurdodau parciau cenedlaethol a
  • Paneli’r Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Rydym yn esbonio yma sut y gallwn deilio â’ch cwyn.

 

Diwallu eich anghenion

Rydym am ei gwneud hi’n hawdd i bawb ddefnyddio ein gwasanaethau. Ni allwn eirioli ar eich rhan ond gallwn eich cyfeirio at sefydliad a allai helpu. Gallwn hefyd newid y ffordd rydym yn cyfathrebu â chi yn dibynnu ar eich anghenion. Rhowch wybod i ni beth yw eich anghenion, a gwnawn ein gorau i helpu. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y gallwn eich cefnogi yma.

 

Cwynion newydd

Caiff pob cwyn newydd ei hystyried gan ein Tîm Cod Ymddygiad. Byddwn yn rhoi gwybod i chi ein bod wedi derbyn eich cwyn.

Yna, byddwn yn ystyried y gŵyn ac unrhyw wybodaeth ategol yn erbyn prawf dau gam.

Yn ystod y cam cyntaf, rydym yn ystyried a yw’r dystiolaeth yn awgrymu bod y cod ymddygiad wedi’i dorri mewn gwirionedd.

Yn ystod yr ail gam, rydym yn ystyried, os profir, a yw’r achos honedig o dorri’r cod yn ddigon difrifol ac a yw cynnal ymchwiliad er budd y cyhoedd.

Er enghraifft, byddwn yn ystyried:

  • a yw cynghorydd wedi mynd ati’n fwriadol i geisio sicrhau budd personol i’w hun neu i rywun arall ar draul y cyhoedd
  • a yw cynghorydd wedi camddefnyddio sefyllfa o ymddiriedaeth
  • a yw’r ymddygiad dan sylw wedi’i gymell gan unrhyw ffurf o wahaniaethu
  • a oes angen i ni ymchwilio er mwyn cynnal ffydd y cyhoedd mewn cynghorwyr lleol
  • a fyddai ymchwilio yn ddewis cymesur.

Pan fyddwn wedi derbyn digon o wybodaeth i asesu eich cwyn, ein nod yw dweud wrthych o fewn chwe wythnos a ydym yn bwriadu ymchwilio i’ch cwyn ai peidio. Fodd bynnag, pan nad yw’n bosib, rhown wybod i chi.

 

Os na allwn dderbyn eich cwyn

Os nad yw cwyn yn bodloni’r prawf dau gam, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam na fyddwn yn ymchwilio.

Byddwn hefyd yn anfon copi o’n penderfyniad at y cynghorydd dan sylw, y Swyddog Monitro (a fydd, efallai, yn ei rannu gyda’u Pwyllgor Safonau) a’r Clerc (os yw’r cynghorydd yn perthyn i Gyngor Tref neu Gymuned).

 

Os penderfynwn ymchwilio i’ch cwyn

Os penderfynwn ymchwilio i’ch cwyn, bydd un o’n Swyddogion Ymchwilio yn cynnal yr ymchwiliad. Byddwn yn ysgrifennu atoch chi a’r partïon eraill sy’n ymwneud â’r gŵyn i gadarnhau ein penderfyniad i ymchwilio.

Byddwn hefyd yn anfon copi o’r gŵyn at y cynghorydd dan sylw, Swyddog Monitro’r awdurdod perthnasol a’r Clerc (os yw’r cynghorydd yn perthyn i Gyngor Tref neu Gymuned).

Ar y cam hwn, fel arfer, bydd y Swyddog Ymchwilio yn cael tystiolaeth bellach, fel dogfennau, unrhyw ddatganiadau tyst a thystiolaeth y gall fod eu hangen gan drydydd parti a gwybodaeth gan y cynghorydd sy’n destun ymchwil. .

Mae pob ymchwiliad yn amrywio. Er y gallai fod angen cyfweld â’r bobl dan sylw, gallwn gwblhau rhai achosion drwy ystyried dogfennau’n unig.

Ein nod yw cwblhau pob ymchwiliad o fewn 12 mis, ond rydym yn cwblhau y rhan fwyaf ohonynt yn gynt na hyn. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hynt yr ymchwiliad.

Os byddwn, am unrhyw reswm, yn penderfynu bod rhaid i ni roi’r gorau i’n hymchwiliad, byddwn yn ysgrifennu atoch i egluro pam.

Fel rheol, rydym yn cynnal ymchwiliadau’n breifat. Felly,  gofynnwn i chi beidio â chysylltu, na thrafod, manylion y gŵyn neu unrhyw wybodaeth y byddwn ni’n ei rhannu â chi, gydag  unrhyw dystion posibl neu bobl a allai fod yn rhan o’r mater, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, i osgoi unrhyw ragfarn i’r ymchwiliad. I gynghorwyr, gall datgelu manylion ein hymchwiliad fod yn gyfystyr â thorri’r Cod Ymddygiad.

Pan fydd gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom, byddwn yn ysgrifennu adroddiad neu hysbysiad o benderfyniad yn nodi’r dystiolaeth yr ydym wedi’i hystyried a’r casgliadau yr ydym wedi’u ffurfio.

 

Canlyniadau ymchwiliadau

Os penderfynwn nad oes tystiolaeth o dorri’r Cod Ymddygiad, byddwn yn cau’r ymchwiliad ac yn ysgrifennu at bob parti i esbonio pam.

O dan rai amgylchiadau, gallwn benderfynu na ddylid cymryd camau pellach. Gallwn hefyd gyfeirio’r gŵyn unwaith eto at Swyddog Monitro’r awdurdod perthnasol i ystyried a yw ymchwiliad lleol pellach yn briodol.

Os ydym yn canfod bod cwyn wedi’i chyfiawnhau, ac rydym o’r farn bod hynny er budd y cyhoedd, gallwn ei chyfeirio at Bwyllgor Safonau’r awdurdod dan sylw, neu at dribiwnlys wedi’i gynnull gan Banel Dyfarnu Cymru. Unwaith y gwnawn hynny, y cyrff hyn sy’n gwneud y penderfyniad terfynol am y gŵyn ac ynghylch a fu achos o dorri’r Cod.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein casgliadau, ac efallai y byddwn yn anfon atoch grynodeb o’r adroddiad er gwybodaeth i chi. Byddwn hefyd yn anfon copi o’n hadroddiad at y cynghorydd dan sylw. Mae fersiwn llawn yr adroddiad yn aros yn gyfrinachol nes bod y Pwyllgor Safonau neu’r tribiwnlys yn gwneud penderfyniad ar y gŵyn.

 

Os ydych yn anhapus â’n penderfyniad

Wedi i ni

  • benderfynu na fyddwn yn ymchwilio i gŵyn yn erbyn cynghorydd, neu
  • benderfynu ar ôl ymchwilio nad oes tystiolaeth sy’n cefnogi achos o dorri’r Cod Ymddygiad, neu nad yw cymryd camau pellach yn briodol,

daw ein tasg i ben i bob diben, ac rydym yn cau ffeil y gwŷn.

Ni wnawn ailagor achos dim ond am eich bod chi’n anghytuno â’n penderfyniad. Fodd bynnag, gallwch ysgrifennu atom o fewn ugain diwrnod gwaith i ofyn i ni adolygu eich achos.

Gallwch ofyn am yr adolygiad hwn os:

  • oes gennych dystiolaeth newydd sy’n berthnasol i’w dangos i ni; neu
  • gallwch ddangos nad ydym, wrth wneud ein penderfyniad, wedi rhoi ystyriaeth briodol i’r wybodaeth a gawsom yn flaenorol.

Bydd ein Rheolwr Adolygu yn ystyried a oes sail i adolygu eich cwyn ac a oes angen i ni wneud unrhyw beth pellach.

 

Cyfathrebu â ni

Ar adegau anodd neu drafferthus, gall rhai pobl ymddwyn yn groes i’w cymeriad. Efallai y bu amgylchiadau trist neu ofidus yn arwain at y gŵyn. Nid ydym yn ystyried ymddygiad fel un annerbyniol dim ond am fod rhywun yn rymus neu’n benderfynol.

Rydym yn credu y dylai pob achwynydd fod â’r hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Fodd bynnag, mae’r un hawliau yn berthnasol i’n staff. Felly, disgwyliwn i chi fod yn gwrtais a foesgar wrth ymwneud â ni. Ni fyddwn yn cydymddwyn ag ymddygiad ymosodol neu amharchus, nac orchmynion neu ddyfalbarhad afresymol.