Mae’r dudalen hon yn esbonio beth sy’n digwydd pan gyflwynwch gŵyn i ni yn ymwneud ag ymyddygiad aelodau neu aelodau cyfetholedig o
Mae hefyd yn esbonio’r gwahanol ddulliau gweithredu y gallwn eu cymryd wrth ddelio â chwynion tebyg. Nid yw’r dudalen hon yn ymdrin â holl fanylion ein gweithdrefnau. Gallwch ddod o hyd i’r manylion hynny yma. Dylid darllen y dudalen hon ynghyd â thaflenni ffeithiau’r Cod Ymddygiad, y gallwch chi ddod o hyd iddynt yma.
Caiff pob cwyn newydd ei chydnabod. Rhaid i unrhyw gŵyn fel hon gael ei hategu gan rhywfaint o dystiolaeth bod yr aelod yr ydych wedi cwyno amdano wedi torri ei God Ymddygiad.
Wedi hynny, byddwn yn archwilio’r gŵyn ac unrhyw wybodaeth ategol yn erbyn prawf dau gam. Yn ystod y cam cyntaf, rydym yn ystyried a yw’r dystiolaeth yn awgrymu bod y cod ymddygiad wedi’i dorri mewn gwirionedd. Yn ystod yr ail gam, rydym yn ystyried, os profir, a yw’r achos honedig o dorri’r cod yn ddigon difrifol a bod cynnal ymchwiliad er budd y cyhoedd. Ein nod yw dweud wrthych o fewn chwe wythnos a ydym yn bwriadu ymchwilio i’ch cwyn ai peidio.
Os byddwn yn penderfynu peidio ag ymchwilio i’ch cwyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam. Byddwn yn anfon copi o’n penderfyniad at yr aelod a gyhuddwyd, Swyddog Monitro’r awdurdod perthnasol (sy’n gallu ei rhannu gyda’u Pwyllgor Safonau) a’r Clerc (os mae’r aelod yn perthyn i Gyngor Tref neu Gymuned).
Os penderfynwn ymchwilio i’ch cwyn, bydd un o’n hymchwilwyr yn cynnal yr ymchwiliad. Gall ef neu hi gysylltu â chi i drafod eich pryderon ac egluro beth fydd yn digwydd nesaf.
Byddwn yn anfon copi o’r gŵyn at yr aelod a gyhuddwyd, Swyddog Monitro’r awdurdod perthnasol a’r Clerc (os mae’r aelod yn perthyn i Gyngor Tref neu Gymuned). Byddwn yn ysgrifennu atoch chi a’r partïon eraill sy’n ymwneud â’r gŵyn i gadarnhau ein penderfyniad i ymchwilio.
Ar y cam hwn, fel rheol bydd yr ymchwiliwr yn cael mwy o tystiolaeth pellach, megis dogfennau, unrhyw ddatganiadau tyst a thystiolaeth y gall fod eu hangen gan drydydd parti a gwybodaeth gan yr aelod a gyhuddwyd.
Mae pob ymchwiliad yn amrywio. Er y gallai fod angen cyfweld â’r bobl dan sylw, gallwn gwblhau rhai achosion drwy ystyried dogfennau’n unig. Ein nod yw cwblhau pob ymchwiliad o fewn 12 mis ond cwblheir y rhan fwyaf ohonynt yn gynt na hyn. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am hynt yr ymchwiliad.
Pan fydd gennym yr holl wybodaeth sydd ei hangen, byddwn yn ysgrifennu adroddiad neu lythyr i amlinellu’r dystiolaeth yr ydym wedi’i hystyried a’r casgliadau yr ydym wedi’u ffurfio.
Fel rheol, rydym yn cynnal ymchwiliadau’n breifat. Gall datgelu manylion ein hymchwiliad fod yn gyfystyr â thorri’r Cod Ymddygiad i aelodau etholedig.
Os penderfynwn nad oes tystiolaeth o dorri’r Cod Ymddygiad, byddwn yn cau’r ymchwiliad ac yn ysgrifennu at bob parti i esbonio pam.
Gallwn dan rai amgylchiadau benderfynu na ddylid cymryd camau pellach. Gallwn hefyd gyfeirio’r gŵyn unwaith eto at Swyddog Monitro’r awdurdod perthnasol i ystyried a yw ymchwiliad lleol pellach yn briodol.
Os ydym yn canfod bod cwyn wedi’i chyfiawnhau, gallwn hefyd ei chyfeirio naill ai at Bwyllgor Safonau’r awdurdod dan sylw, neu at dribiwnlys wedi’i gynnull gan Banel Dyfarnu Cymru i wneud penderfyniad am y materion. Unwaith y gwnawn hynny, mater i’r cyrff hyn yw gwneud penderfyniad terfynol am y gŵyn.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am yr hyn y gwnaethom benderfynu ei wneud â’ch cwyn ac efallai y darparwn grynodeb o’r adroddiad er gwybodaeth i chi. Anfonwn gopi o’n hadroddiad hefyd at yr aelod a gyhuddwyd. Bydd fersiwn llawn yr adroddiad yn aros yn gyfrinachol nes i’r Pwyllgor Safonau neu’r tribiwnlys wneud penderfyniad am y materion.
Wedi i ni benderfynu peidio ag ymchwilio i gŵyn yn erbyn aelod etholedig, mae ein tasg ar ben i bob diben, a chaiff y ffeil ei chau. Ni wnawn ailagor achos dim ond am eich bod chi’n anghytuno â’n penderfyniad. Fodd bynnag, gallwch ysgrifennu atom o fewn ugain diwrnod gwaith i ofyn i ni adolygu eich achos. Gallwch ofyn am yr adolygiad hwn os:
Bydd ein Rheolwr Adolygu yn ystyried a oes sail i adolygu eich cwyn ac a oes angen i ni wneud unrhyw beth pellach.
Ar adegau anodd neu drafferthus, gall rhai pobl ymddwyn yn groes i’w cymeriad. Efallai y bu amgylchiadau trist neu ofidus yn arwain at y gŵyn. Ni ystyriwn ymddygiad fel un annerbyniol dim ond am fod rhywun yn rymus neu’n benderfynol.
Credwn y dylai pob achwynydd fod â’r hawl i gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Fodd bynnag, mae’r un hawliau yn berthnasol i’n staff. Felly, disgwyliwn i chi fod yn gwrtais a foesgar wrth ymwneud â ni. Ni fyddem yn cydymddwyn ag ymddygiad ymosodol neu amharchus, nac orchmynion neu ddyfalbarhad afresymol.