Rydym wedi croesawu’r cyfle i wneud sylwadau ar y cynigion a’r trafodaethau adeiladol â Swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymwneud â’n meysydd penodol sy’n peri pryder.

Yn benodol, rydym wedi gwneud sylwadau ar ddau agwedd ar yr ymgynghoriad: yn gyntaf, yn ymwneud â chyflwyno Dyletswydd Gonestrwydd ac yn ail, y newidiadau arfaethedig i’r Rheoliadau Gweithio i Wella (GIW). Dyma grynodeb o’n prif bwyntiau:

  • Rydym yn croesawu’r bwriad i gyflwyno’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn galonnog. Os caiff ei gweithredu’n llwyddiannus, dylai’r Ddyletswydd gefnogi’r symudiad o fewn y GIG tuag at fod yn fwy agored a thryloyw, gan wella profiad y claf a hyder yn y gwasanaeth yn y pen draw.
  • Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y bydd gweithredu’r Ddyletswydd hon yn llwyddiannus yn ymrwymiad sylweddol i’r GIG yng Nghymru a bydd angen adnoddau ychwanegol. Byddem yn croesawu mwy o fanylion am ba adnoddau a fydd yn cael eu hymrwymo i gefnogi gweithrediad llwyddiannus y Ddyletswydd hon.
  • Er bod yr ymgynghoriad hwn yn delio o reidrwydd â’r prosesau a gweithdrefnau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i gefnogi cyflwyno’r Ddyletswydd Gonestrwydd, rydym o’r farn y bydd y cynigion hyn ond yn llwyddiannus pan fydd gan sefydliadau’r diwylliant cywir ar waith i annog bod yn agored ac i roi hyder i staff y gallant godi materion heb ofni canlyniadau iddyn nhw yn bersonol.
  • Gallai cyflwyno’r Ddyletswydd Gonestrwydd greu mwy o gwynion i’n swyddfa. I baratoi ar gyfer y cynnydd posibl hwnnw, rydym yn awyddus i ddysgu mwy am y nifer disgwyliedig o adolygiadau Dyletswydd Gonestrwydd ac ymatebion GIW.
  • Yn dilyn cyflwyno’r Ddyletswydd Gonestrwydd, wrth ymchwilio i gwynion gofal iechyd perthnasol, rydym yn debygol o ystyried a gafodd y Ddyletswydd ei chyflawni a sut. Byddwn yn anfon rhagor o ohebiaeth at gyrff iechyd i sicrhau eu bod nhw a Llywodraeth Cymru yn ymwybodol y byddwn yn dechrau ystyried a yw gofynion y Ddyletswydd Gonestrwydd wedi’u bodloni wrth i ni ystyried achosion.
  • Byddwn yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw newidiadau i’r Rheoliadau GIW a’r cynllun canllawiau a fyddai’n caniatáu i gyrff iechyd ail-ystyried cwynion yn dilyn ein canfyddiadau. I osgoi unrhyw gamddealltwriaeth y gall cyrff iechyd ail-ystyried cwyn yr ydym eisoes wedi ymchwilio iddi, rydym yn awgrymu newid ychydig o’r geiriad yn adrannau perthnasol y rheoliadau a’r canllawiau.
  • I osgoi unrhyw amheuaeth, rydym am sicrhau bod y cyhoedd yn gwbl glir y caiff annibyniaeth a didueddrwydd OGCC eu cynnal wrth benderfynu ar achosion. Dymunwn bwysleisio nad ydym, yn ein penderfyniadau gwaith achos, wedi ein rhwymo mewn unrhyw ffordd gan delerau’r Rheoliadau GIW nac unrhyw un o’r terfynau ariannol o fewn y cynllun. Mae pwerau’r Ombwdsmon yn golygu bod gennym ddisgresiwn eang i wneud penderfyniadau achos ac argymhellion. Nid yw’r Ombwdsmon wedi’i rwymo mewn unrhyw ffordd gan delerau’r cynllun GIW na therfynau iawndal ariannol yn y cynllun. Mewn achosion lle mae anghyfiawnder difrifol wedi digwydd, gall yr Ombwdsmon wneud argymhellion ar gyfer iawndal ariannol priodol o fewn telerau cylch gwaith yr Ombwdsmon ar ôl ystyried amgylchiadau unrhyw achos penodol.
  • Awgrymwn ddiwygio Canllawiau Statudol 2023 y Ddyletswydd Gonestrwydd i’r perwyl y dylai’r ddysg o achosion a ystyriwyd gennym fod yn rhan o asesiadau cyrff y GIG o ba mor effeithiol y maent yn cydymffurfio â’r Ddyletswydd Gonestrwydd.

 

Mae ein hymateb llawn ar gael ar ein gwefan yma.