Cynhaliwyd cyfarfod llawn yng Nghyngor Sir y Fflint 25 Mai 2021 i ystyried yr argymhellion a wnaed mewn adroddiad budd y cyhoedd blaenorol a gyhoeddwyd gan yr Ombwdsmon yn erbyn y Cyngor.

Canfu’r adroddiad budd y cyhoedd y bu camweinyddu ar ran adran gynllunio Cyngor Sir y Fflint fel awdurdod cynllunio lleol (LPA), wrth roi tystysgrif a192 a chais ôl-weithredol, a achosodd anghyfiawnder i’r achwynydd.

Heriwyd yr argymhellion a wnaed yn adroddiad yr Ombwdsmon gan adroddiad a wnaed gan Swyddog o Gyngor Sir y Fflint.

Yn ystod cyfarfod llawn y cyngor, gwrthododd yr aelodau adroddiad y swyddog, gan gytuno ar argymhellion yr Ombwdsmon.

O ganlyniad, bydd Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu argymhellion yr Ombwdsmon yn llawn.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Rwy’n falch bod Cyngor Sir y Fflint yn cydnabod difrifoldeb y materion yr adroddwyd arnynt, sydd wedi cael effaith enfawr ar ansawdd bywyd preswylydd yn Sir y Fflint.

Rwy’n ddiolchgar i aelodau’r Cyngor am gytuno i gydymffurfio â’m hargymhellion ac am wneud y penderfyniad yn groes i argymhelliad y swyddog.  Mae’n dda gennyf weld bod fy adroddiad wedi’i ystyried yn llawn ac yn wrthrychol, ac y bydd cyfiawnder yn cael ei gadarnhau.”

DIWEDD