Cyhoeddwyd adroddiad thematig newydd yn arddangos arfer da ar draws sector cyhoeddus Cymru gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

At Eich Gwasanaeth: Y Canllaw Arfer Da yw’r pumed adroddiad thematig a gyhoeddwyd gan Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, sy’n canmol adroddiadau blaenorol a edrychodd ar ofal y tu allan i oriau yn ysbytai Cymru, ‘trefniadau rhyddhau o’r ysbyty’, ‘delion wael â chwynion’ a rheoli cofnodion yn wael.

Yn wahanol i’r adroddiadau eraill a edrychodd ar arfer gwael gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, mae’r adroddiad thematig diweddaraf yn canolbwyntio ar enghreifftiau cadarnhaol o arfer da, yn ystod cyfnod lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn wynebu pwysau digynsail oherwydd y pandemig.

Gwna’r adroddiad pum prif argymhelliad:

  1. Gwasanaethau cyhoeddus i ganolbwyntio ar adnabod a lledu arfer da yn eu sefydliadau, gan ymgymryd â chamau gweithredu ar lefelau strategol a gweithredol.
  2. Sefydliadau i wneud arfer da a rhannu gwybodaeth yn eitem safonol ar yr agenda mewn cyfarfodydd adrannol/tîm.
  3. Gwasanaethau cyhoeddus i ystyried ymgorffori gwybodaeth o goflyfrau’r  Ombwdsmon/”Ein Canfyddiadau” yn eu hyfforddiant ar gyfer staff sy’n darparu gwasanaeth ac ymdrin â chwynion.
  4. Gwasanaethau Cyhoeddus i fanteisio ar y cynnig i gael hyfforddiant ymdrin â chwynion gan dîm Safonau Cwynion yr Ombwdsmon.
  5. Ystyried creu porth ar gyfer rhannu arfer da ar draws sectorau.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Bydd ôl-effeithiau anochel COVID-19 i’w teimlo gan Gymru, a gweddill y byd, am nifer o flynyddoedd. Wrth i gyllidebau gael eu tynhau a galwadau am wasanaethau gynyddu, mae’n bwysicach nag erioed bod darpariaeth gwasanaeth cyhoeddus yn effeithiol ac yn cynnig gwerth am arian.

“Mae’r amser wedi dod imi ehangu fy Agenda Gwella i rannu nid yn unig gwersi i’w dysgu pan fydd pethau wedi mynd o’u lle, ond hefyd arfer da a nodwyd yn fy ngwaith achos.

“Mae’n bleser mawr dod o hyd i enghreifftiau o arfer da yn yr achosion a gaf, ac rwy’n awyddus i sicrhau fy mod yn rhannu’r enghreifftiau cadarnhaol hyn, hefyd.”

I ddarllen yr adroddiad, ewch yma.