Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei ail Goflyfr Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn tynnu sylw at 14 achos lle gall cydraddoldeb neu hawliau dynol unigolyn fod wedi’u cyfaddawdu gan weithredoedd neu ddiffyg gweithredu corff cyhoeddus o dan fy awdurdodaeth.

Mae’r Coflyfr yn canolbwyntio ar Erthyglau’r Comisiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Mae achosion yn cynnwys:

  • Menyw a guddiodd yn ei hatig gyda’i phlant ar ôl i staff ysbyty ffonio’r heddlu ar ôl iddi rhyddhau ei hun yn sydyn o’r ysbyty. (201902717)
  • Dyn na ddywedwyd wrtho fod methiant ei afu yn derfynol, gan olygu na roddwyd cyfle iddo a’i deulu baratoi am ei farwolaeth na chynllunio ei ofal diwedd oes. (20187750 & 201807994)
  • Staff ysbyty a ddefnyddiodd broses diogelu i atal mynediad menyw i ward, a olygodd y bu farw ei phartner ar ddiwrnod lle yr oedd wedi’i chyfyngu rhag ymweld. (201803094)

Er nad swyddogaeth yr Ombwdsmon yw gwneud canfyddiadau pendant ynghylch a yw hawliau dynol rhywun wedi’u cyfaddawdu gan weithredodd neu ddiffyg gweithredu corff cyhoeddus, bydd yn tynnu sylw at gwynion sy’n ymwneud â hawliau dynol rhywun ac yn gwneud sylwadau ar barch corff cyhoeddus tuag atynt.

Mae’r Coflyfr hefyd yn argymell dysgu penodol ar faterion hawliau dynol a chydraddoldeb, fel ymgymryd â hyfforddiant, ymgorffori ystyriaeth o hawliau dynol i arfer ac adolygu polisïau presennol a gwybodaeth staff a all fod yn gysylltiedig â chydbwyso materion hawliau dynol wrth wneud penderfyniadau.

Wrth roi ei sylwadau ar y Coflyfr, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Rwy’n ymfalchïo wrth adlewyrchu ar y gwaith mae fy swyddfa wedi’i wneud i roi sylw blaenllaw i hawliau dynol a materion cydraddoldeb.

Wrth i ni ddechrau ar y cyfnod a elwir “y normal newydd”, rwy’n gobeithio y bydd ein profiadau cyffredinol diweddar yn sicrhau nad ydym yn anghofio’r egwyddorion sylfaenol o ddyngarwch ac urddas sy’n cael eu cyflwyno yn y Confensiwn.”

I ddarllen y coflyfr, ewch yma.