Mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei farnu gan yr Ombwdsmon ar ôl iddo fethu ag anrhydeddu ei addewid i ymgymryd ag asesiad annibynnol ar gyfer person sy’n agored i niwed.

Cwynodd Mr A (dienw) yn gyntaf i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, trwy ei AS a fu’n cefnogi Mr A. Cwynodd yr AS fod Cyngor Caerdydd wedi methu â chwblhau asesiad annibynnol o’i anghenion yn gynnar yn 2019, ar ôl iddynt gytuno i wneud hynny.

Mae Mr A, sydd ag anhwyldeb personoliaeth a nam ar ei olwg, yn byw mewn llety a ddarperir gan y Cyngor ac sy’n cael ei gefnogi gan Dîm Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion y Cyngor.

Yn unol â’i bwerau, datrysodd yr Ombwdsmon y gŵyn (fel dewis arall yn lle ymchwilio) ar sail cytundeb y Cyngor i gynnal asesiad o anghenion Mr A. Bu gofyn i’r Cyngor gwblhau’r weithred erbyn 27 Medi 2020 ond nid yw’r Ombwdsmon wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod ymgais wedi’i wneud i gyflawni’r asesiad.

Oherwydd methiant y cyngor i anrhydeddu ei addewid, mae’r Ombwdsmon wedi cyhoeddi ‘adroddiad arbennig’ a gwnaeth argymhellion pellach y mae’r Cyngor wedi cytuno iddynt.

Bydd y cyngor yn:

a) Cwblhau asesiad annibynnol (i’w gynnal gan rywun nad ydynt yn gweithio i’r Cyngor) o anghenion Mr A erbyn 31 Ionawr 2021.

b) Darparu diweddariad wythnosol i’w swyddfa am ddatblygiad yr asesiad annibynnol.

c) Rhoi copi o’r asesiad annibynnol i’w swyddfa ar ôl cwblhau.

d) Rhoi ymddiheuriad ysgrifenedig i Mr A (o fewn 1 mis), gyda chopi i’r AS, am yr oedi wrth gwblhau’r asesiad annibynnol. Cytunodd hefyd i roi copi o’r llythyr i swyddfa’r Ombwdsmon.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Rwy’n ystyried ei bod yn annerbyniol i gorff cyhoeddus mawr fethu â chymryd camau prydlon ac effeithiol i sicrhau bod argymhellion y cytunwyd arnynt yn cael eu gweithredu’n iawn. Mae hyn yn arbennig o wir pan mae’n ymwneud â’r angen i gefnogi person sy’n agored i niwed.  Methodd Cyngor Caerdydd â chyflawni’r hyn sydd, mewn gwirionedd, yn addewidion cyfrwymol i mi fel Ombwdsmon.

“Mae’r unigolyn hwn sy’n agored iawn i niwed wedi cael ei siomi gan y cyngor ac rwy’n llwyr ddisgwyl bod yr asesiad o’i anghenion yn cael ei gynnal cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl.”

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Matt Aplin, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, trwy anfon e-bost at cyfathrebu@ombwdsmon.cymru neu ffonio 07957 440846.

I ddarllen yr adroddiad, cliciwch yma.