O Ddydd Mawrth 20 Hydref 2020, rydym yn ail-gyflwyno ein gwasanaeth ffôn ar sail gyfyngedig. Bydd y gwasanaeth hwn ar gael o 10 yb i 2 yh, Dydd Llun i Ddydd Gwener drwy ffonio 0300 790 0203. Byddwch yn ymwybodol y bydd staff yr Ombwdsmon yn cymryd y galwadau hyn o’u cartrefi ac felly ni fydd ganddynt bob amser yr holl adnoddau a fyddai ganddynt yn y swyddfa. Mae hefyd yn bosibl y byddwch weithiau yn clywed synau oherwydd nid yw bob amser yn bosibl tawelu’r synau cefndir. Rydym yn ddiolchgar am eich dealltwriaeth yn hyn o beth gan fod ein staff yn darparu’r gwasanaeth gorau y gallent yn ystod y cyfnod anodd hyn.