Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn lansio ymgynghoriad ar ymchwiliad arfaethedig ‘ar ei liwt ei hun’ i ddigartrefedd yng Nghymru.

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio heddiw (dydd Mercher) yng nghynhadledd Tai Cymru 2020.

Hwn fydd yr ymchwiliad cyntaf o’i fath ers i’r Ombwdsmon gael pwerau newydd trwy’r Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

Mae’r ymchwiliad arfaethedig yn cael ei gefnogi gan yr actor a’r ymgyrchwr cymdeithasol Michael Sheen a ddywedodd fod cymysgedd o lymder ac effeithiau’r pandemig wedi golygu bod pobl yn wynebu mwy o berygl o golli eu cartrefi.

Bydd ymchwiliad arfaethedig yr Ombwdsmon yn canolbwyntio ar weinyddiaeth awdurdodau lleol yng Nghymru o’r broses asesu ac adolygu digartrefedd.

Bydd hefyd yn ystyried unrhyw welliannau ac arfer da wrth gyflenwi gwasanaeth sydd wedi codi yn ystod pandemig COVID-19 y gellir eu dwyn ymlaen i ysgogi newid yn y gwaith hwn yn y tymor hwy.

Dywedodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett:

“Mae pobl ddigartref bob amser yn agored i niwed  – ond yng nghanol pandemig -lle mae’r cartref yn cael ei ystyried yn amddiffyniad cyntaf, maen nhw mewn perygl arbennig.  Bwriad y pwerau a roddodd y Senedd i mi yw rhoi llais i’r di-lais. Mae’n anodd meddwl am grŵp mwy ymylol a di-lais ar hyn o bryd.

“Mae cynllun graddol Llywodraeth Cymru i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru, ynghyd â’r ymrwymiad a ddangosodd Awdurdodau Lleol i geisio datrys y materion sy’n gysylltiedig â digartrefedd, yn cynrychioli gwir gyfle i greu Cymru fwy cyfartal ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“Ar ôl aros am hir i gael pwerau ymchwilio ar fy liwt fy hun, rwy’n awyddus i’w defnyddio mewn sefyllfa gyfoes i ysgogi gwelliant mewn gwasanaeth.”

Mewn neges fideo i’r gynhadledd, bydd Michael Sheen yn dweud:

“Mae effaith niweidiol cyfnod hir o lymder ac yna straen ariannol a achosodd y pandemig presennol wedi golygu bod nifer fwy o bobl mewn perygl o golli eu swyddi neu o dderbyn incwm is a, gydag hyn, mewn perygl o golli eu cartrefi.

“Rwy’n falch felly o gefnogi dewis yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i seilio pwnc ei ymchwiliad ‘Ar ei Liwt ei Hun’ cyntaf ar faterion digartrefedd.  Rwy’n aros am y canlyniadau ac yn ymddiried y daw amcan Llywodraeth Cymru o ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru yn realiti.”

DIWEDD