Rydym wedi ymrwymo i gryfhau ein cyfraniad at gydraddoldeb, cyfiawnder a chynhwysiant hiliol yng Nghymru. Mae ein Siarter Hil ac Ethnigrwydd yn y Gweithle yn cyd-fynd â’n gweithredoedd cydraddoldeb ehangach, ond mae hefyd yn cynnwys ymrwymiadau ychwanegol a mwy penodol yng nghyswllt ein gwaith i gefnogi cydraddoldeb a chynhwysiant hiliol yn OGCC fel cyflogwr a darparwr gwasanaeth.  Byddwn ni yn adrodd ar ein cynnydd o ran yr ymrwymiadau yn y Siarter yn ein Hadroddiad Cydraddoldeb blynyddol.

Byddwn ni’n gwrando

  • Byddwn ni’n ymgysylltu’n rhagweithiol â chymunedau lleiafrifoedd ethnig i bennu a chwalu’r rhwystrau i fynediad i’n gwasanaeth, gan gydnabod croestoriadedd.
  • Byddwn ni’n parhau i fod yn sefydliad cynhwysol a byddwn ni’n darparu cefnogaeth i staff lleiafrifoedd ethnig, yn gwrando ar eu profiadau ac yn dysgu, er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol.
  • Byddwn ni’n gwrando ar ein staff, gan gynnwys staff a chynghreiriad lleiafrifoedd ethnig, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a phrofiadau i gefnogi diwylliant sefydliadol cadarnhaol. Byddwn ni’n cefnogi staff sy’n dymuno sefydlu, neu sy’n dymuno bod yn rhan o rwydweithiau staff yn OGCC.

Byddwn ni’n dysgu

  • Byddwn ni’n sicrhau dysgu ac ymwybyddiaeth gwrth-hiliaeth barhaus i’r holl staff.
  • Byddwn ni’n cynnal digwyddiadau trwy gydol y flwyddyn i ddathlu diwylliannau lleiafrifoedd ethnig, cynyddu dysgu a chodi ymwybyddiaeth o wahaniaethau, gan gynnwys materion yn ymwneud â hiliaeth a gwahaniaethu.
  • Byddwn ni’n atgyfnerthu ein dysgu o’r hyfforddiant rhagfarn ddiarwybod

Byddwn ni’n gweithredu

  • Bydd yr Ombwdsmon yn dod yn Noddwr Gweithredol o’r Tîm Arweinyddiaeth i ddarparu arweinyddiaeth weladwy ar hil ac ethnigrwydd yn ein sefydliad.
  • Byddwn ni’n sicrhau cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig ar ein Panel Ymgynghorol a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg erbyn mis Ebrill 2022.
  • Byddwn ni’n cymryd camau rhagweithiol i sicrhau gweithlu mwy amrywiol sy’n fwy cynrychioliadol o’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu. Byddwn yn gwneud hyn trwy gynyddu ymwybyddiaeth o’n rôl a’n cyfleoedd recriwtio i ddarpar ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig, gyda’r nod o sicrhau bod 8% o’r rhai sydd ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad yn lleiafrifoedd ethnig.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at ymgysylltu ag unrhyw rhanddeiliaid allanol fyddai â diddordeb mewn helpu ni i gyflawni’r ymrwymiadau hyn. Gellir anfon unrhyw ymholiadau am ein Siarter at Ania Rolewska (Pennaeth Polisi)