Bydd yr Ombwdsmon yn ystyried y cyd-destun cyfredol wrth asesu ac ymchwilio i gwynion. Mae’r Ombwdsmon yn gofyn i achwynwyr ystyried hyn pan fyddant yn defnyddio ein gwasanaeth.

O ran cwynion cod ymddygiad awdurdod lleol, hoffem atgoffa bawb fod cwyn blinderus yn doriad o’r cod ei hun a bydd yn sicr yn cael ei drin fel hynny yn ystod yr argyfwng cyfredol.

 

Trefniadau Gweithredol

Yn unol â phob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru, rydym yn monitro’r sefyllfa barhaus ynglŷn â Choronafeirws (COVID-19) ac yn rheoli’r effaith bosibl ar y sefydliad.

Ein defnyddwyr gwasanaeth

Ar hyn o bryd, rydym yn ymateb i negeseuon ebost yn ôl yr arfer, a byddem yn eich annog i gysylltu â ni drwy ebost lle bo’n bosibl, neu drwy gyflwyno ffurflen gwyno drwy ein gwefan.

O Ddydd Llun 23ain Mawrth, ni allwn bellach dderbyn post sy’n dod i mewn i’r swyddfa – bydd unrhyw eitemau sy’n cael eu hanfon at OGCC yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu cadw yn y Swyddfa Bost. Nid oes unrhyw staff yn bresennol i anfon post gan OGCC.

Mae ein gwasanaeth ffôn arferol wedi’i ohirio, ond os gadewch neges byddwn yn ceisio eich galw yn ôl er ei bod yn debygol y bydd peth oedi. Yn unol â chyngor gan Lywodraeth y DU, rydym yn gwneud trefniadau amgen i alluogi ein staff i weithio o gartref.

Rydym yn gweithio i gynnal gwasanaeth da ac yn ceisio parhau i fod yn hygyrch i bawb sydd ein hangen. Fodd bynnag, efallai na fyddwn yn gallu cwrdd â’n dyddiadau targed arferol, ac efallai y bydd y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaeth yn cael amseroedd ymateb arafach na’r arfer.

Darparwyr gwasanaeth

Pan fydd eich gallu i roi gwybodaeth i ni yn cael ei gyfaddawdu, rydym yn eich annog i gysylltu â ni’n uniongyrchol i drafod. Mae’r llawer o gwynion yn deillio o ddisgwyliadau sydd heb eu rheoli’n briodol. Mae’n debygol y bydd pwysau ychwanegol ar wasanaethau felly rydym yn eich annog i gytuno ar ddisgwyliadau realistig ag achwynwyr o ran eich gallu i ymateb. Gellir ymestyn amserlenni mewn amgylchiadau eithriadol.

Lle bo’n bosibl, efallai y byddwch am ychwanegu ymatebion awtomatig i fewnflychau ebost (gan leihau’r galw ichi ymateb â llaw) ac egluro pryd y gall achwynwyr ddisgwyl ymateb. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei roi wrth i’r sefyllfa ddatblygu.