Mae adroddiad arbennig gan Ombwdsmon wedi datgelu bod darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud i ddefnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd deimlo yn rhwystredig ac yn amheus yn sgil colli eu cofnodion.

Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi amlygu sampl o achosion yn ei adroddiad thematig diweddaraf, Colli Cyfiawnder: Colli Cofnodion a Cholli Cyfleoedd, a ystyriwyd ganddo lle mae cofnodion iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael eu camosod neu eu colli.

Rhybuddiodd fod achwynwyr yn cael eu gadael â thrallod ychwanegol mewn rhai achosion ar adeg pan fu farw rhywun agos iddynt.

Mae enghreifftiau yn cynnwys:

  • Ymgynghorwyr yn trafod cofnodion meddygol claf arall yn ddamweiniol mewn cyfarfod â merch a oedd yn galaru am farwolaeth ei thad.
  • Bwrdd Iechyd heb gadw unrhyw gofnod o fenyw yn rhoi genedigaeth i’w phlentyn newydd-anedig mewn ysbyty, ar wahân i gopi o bresgripsiwn a gedwir yn ei fferyllfa.
  • Cofnodion a oedd yn ymwneud â chlaf arall yn cael eu hanfon dro ar ôl tro at glaf a oedd eisoes yn bryderus am ddiogelwch ei gofnodion triniaeth.

Galwodd yr Ombwdsmon am bolisïau a phrosesau effeithiol o ran rheoli cofnodion, hyfforddiant cadarn a gweithdrefn chwilio ac adrodd clir a manwl i’w defnyddio pan fydd cofnodion yn cael eu camosod neu eu colli.

Wrth roi ei sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Rwy’n annog pob gwasanaeth cyhoeddus i ystyried Colli Cyfiawnder: Colli Cofnodion a Cholli Cyfleoedd a sicrhau bod arfer gorau yn teithio ledled Cymru.

“Mae effaith niweidiol colli cofnodion yn amlwg ar yr achwynwyr wrth iddyn nhw gael eu gadael i deimlo’n rhwystredig ac yn amheus wrth i’w pryderon gael eu gadael heb eu hateb. Yn drasig, mewn rhai achosion, mae perthnasau yn teimlo na allan nhw alaru’n iawn oherwydd diffyg bwrdd iechyd i gynnal ymchwiliad llawn.

“Ar yr un pryd, dydi sefydliadau ddim yn elwa ar gyfleoedd dysgu amhrisiadwy os nad yw cwynion yn gallu dod i’w casgliadau.”

I ddarllen yr adroddiad, ewch yma.