Canfu ymchwiliad Ombwdsmon bod camweinyddu ar ran Cyngor Sir y Fflint wedi arwain at flynyddoedd o aflonyddwch “parhaus ac ymwthiol” i breswylydd oherwydd cyfleuster golchi ceir anhrwyddedig.

Yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, dioddefodd Mr R (dienw) “anghyfiawnder sylweddol” dros gyfnod o bum mlynedd oherwydd lefelau annerbyniol o sŵn a dŵr a chemegau yn ysgeintio.

Canfu’r adroddiad bod Cyngor Sir y Fflint wedi methu â chymryd camau amserol a phriodol i ddelio â’r cyfleuster golchi ceir, a oedd yn achosi Niwsans Statudol oherwydd y sŵn a’r dŵr a chemegau yn ysgeintio. Mae hefyd yn casglu bod y Cyngor wedi methu â rhoi ystyriaeth ddyladwy i hawl Mr R, o dan y Ddeddf Hawliau Dynol 1998, i fwynhau ei gartref mewn tawelwch a heddwch.

Gan wneud sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Nick Bennett, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

“Mae’n achos pryder bod y Cyngor, er iddo adnabod yn 2014 bod y cyfleuster golchi ceir yn achosi Niwsans Statudol, wedi methu ag agor ffeil achos priodol tan 18 mis yn ddiweddarach a ni chyhoeddodd Hysbysiad Atal am 13 mis arall. Pan barhaodd y cyfleuster golchi ceir i weithredu ac achosi’r Niwsans Statudol, a oedd yn mynd yn groes i’r Hysbysiad Atal, ni chymerwyd unrhyw gamau pellach gan y Cyngor.

“Mae hefyd yn fater pryder nad oedd gan y Cyngor ddim cofnodion cynllunio bron cyn Awst 2018, er iddo fod yn ymwybodol ers o leiaf 2012 nad oedd gan y cyfleuster golchi ceir ganiatâd cynllunio priodol. Mae’r diffyg cofnodion ynghyd â’r diffyg gweithredu ar ran y Cyngor yn y pum mlynedd cyn y dyddiad hwn yn awgrymu nad oedd y Cyngor wedi ystyried yn fanwl a oedd am gymryd camau gorfodi yn erbyn y cyfleuster golchi ceir, ac roedd hynny’n cyfrif fel camweinyddu.

“Canfu fy ymchwiliad bod y cyngor wedi methu ag ymateb a dwysáu cwynion yn briodol. Hefyd, ni sefydlwyd perchnogaeth glir o ran cyfrifoldeb ar gyfer delio â’r sefyllfa ar lefel uwch, yn ogystal â diystyru’n llwyr yr anawsterau a wynebwyd gan Mr R, a effeithiodd ei iechyd a’i lesiant yn sylweddol. Hysbyswyd y Cyngor o hyn ac eto, methodd gymryd camau am gyfnod hir o amser.

“O ganlyniad, ni fu ymchwiliad addas i’r gŵyn a ni dderbyniodd Mr R a’i landlord unrhyw ymateb ystyriol i’w pryderon tan i’m swyddfa ymyrryd. Roedd hyn yn gwbl annerbyniol.”

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i sawl argymhelliad, gan gynnwys rhoi ymddiheuriad llawn ac ystyrlon i Mr R a’i landlord a chynnig iawndal ariannol o £3,500.

I weld yr adroddiad, ewch yma.